Merfog
Llun y rhywogaeth
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Cypriniformes
Teulu: Cyprinidae
Genws: Abramis
Rhywogaeth: A. brama
Enw deuenwol
Abramis brama
(Linnaeus 1758)

Pysgodyn sy'n byw mewn dŵr croyw ac sy'n perthyn i deulu'r Cyprinidae ydy'r merfog sy'n enw gwrywaidd; lluosog: merfogiaid (Lladin: Abramis brama; Saesneg: Common bream). Caiff ei ystyried, bellach, fel yr unig aelod o'r genws Abramis.

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Ewrop: i'r gogledd o'r Alpau a'r Pyreneau yn ogystal â'r Balcanau. Fe'i ceir i'r dwyrain cyn belled â'r Môr Caspia, y Môr Du a'r Môr Aral. Mae'n bysgodyn dŵr croyw ac mae i'w ganfod ar arfordir Cymru.

Mae'r Merfog i'w ganfod mewn pyllau dŵr, llynnoedd a chamlesi, a hyd yn oed afonydd llif-araf. Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]

Disgrifiad golygu

Mae'r merfog rhwng 30 a 55 cm (12 i 22 modfedd) ar gyfartaledd, ac yn pwyso 2 4 kg (4.4 to 8.8 pwys). Mae'r enghraifft mwyaf ohono tipyn yn fwy na hyn, fod bynnag: 90 cm (35.5 mod) a 9.1 kg (20 pwys)!

Mae'n llwyd ysgafn ei liw, sy'n tywyllu ychydig, wrth i'r pysgodyn fynd yn hŷn, gyda gwawr ysgafn, goch, yn enwedig mewn dŵr glân. Mae'r ffins yn llwyd tywyll, heb wawr goch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014