Merysbren

Planhigyn â ffrwyth tebyg i egroes, anghyfarwydd ym Mhrydain heddiw ond yn boblogaidd ar un adeg ymysg y bonedd i fwyta â gwin i'w felysu.
Mespilus germanica
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Mespilus
Rhywogaeth: M. germanica
Enw deuenwol
Mespilus germanica
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Merysbren sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Mespilus germanica a'r enw Saesneg yw Medlar.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Merysbren Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll.

Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.

Chwedloniaeth a mytholeg golygu

"Mae’n anodd gen i feddwl am goeden y medler - y merysbren neu’r feryswydden - heb feddwl am fŵals! Yr afal dindwll yw un enw am ei ffrwyth, ffrwyth sy’n debyg i egroes ond gyda thwll yn ei phen blaen (neu ei phen ôl – dibynnu o ba gyfeiriad rydych yn edrych arno!). Awgrymodd John Harrington, aelod o lys Elisabeth I, a’r un a ddyfeisiodd y WC, y dylem fwyta’r ffrwyth if you have a loosenesse gotten.
Un o gredoau y Canol Oesoedd oedd yr athroniaeth bod llysieuyn sy’n dwyn ffurf rhan o’r corff felly yn llesol i drin anhwylderau y rhan honno o’r corff (ee. llysiau’r afu at yr afu y mae’n debyg iddo). Cafodd y gred ei ddyrchafu yn Ddysgeidiaeth y Cyfeirnodau', ac mae’n debyg mai dyna oedd sail cysylltiad y ffrwyth gyda’r pen ôl – bu’n driniaeth at y dolur rhudd.
Ni fu’r medler yn gyffredin erioed yn y Gymru wlyb a di-haul, ac ni fu’n ffasiynol i’w dyfu yn unman ers canrif a mwy er iddo barhau hyd heddiw yng ngerddi a pherllannau tai mawr megis Rhyd y Creuau, Betws y Coed, a gerddi Treborth ger Bangor. Yr arfer ymhlith y bonedd oedd casglu’r ffrwythau ar ôl y barrug cyntaf a’u gadael i bydru mewn llwch lli – bletting oedd eu gair am y broses – cyn eu bwyta mewn siwgr a hufen gyda gwydriad o bort. Roedd y “bletio” yn fodd i'w felysu a gwaredu’r taninau asidaidd.
Yn ei ddrama “Measure for Measure” cyfeiriodd Shakespeare at yr arfer: They would have married me to the rotten medler meddai un cymeriad, ac mewn drama arall o'r un cyfnod "The Honest Whore” awgrymodd Thomas Dekker trwy un o’i gymeriadau yntau bod merched yn debyg i’r medler, no sooner ripe but rotten...twt-twt! Awgrymodd rhywyn mai er mwyn cuddio blas gwin drwg y cyfnod y bwyteid y medler efo gwin. Y blas tebycaf iddo yn ôl profiad yr awdur, ar ôl “bletio” rhai a gasglodd unwaith, oedd datys gwael.
Ym Mhersia (Iran heddiw) y mae’r medler yn tyfu yn ei gynefin naturiol, ac mae’n gwestiwn sut daeth i Brydain yn y lle cyntaf? Cafodd ei gofnodi ym Mhrydain mor bell yn ôl â’r ddegfed ganrif ond y dystiolaeth gyntaf ohono yw hedyn a gafwyd mewn cloddfa archeolegol yng nghaer Rufeinig Silchester yn swydd Caerwynt. Calleva Atrebates oedd yr enw Rhufeinig am Silchester gyda llaw,sef [y dref yn y] coed yn perthyn i lwyth yr Atrebates. Gair o’r un tras a celli yn y Gymraeg yw Calleva, a chytras yw Silchester â sallow, sef helyg (dydi "llên natur" byth yn bell i ffwrdd...)
Ond ’dae waeth am hynny, mae’r hedyn bach hwn yn profi’n bendant i bren y medler gyrraedd gyda’r Rhufeiniaid tua chyfnod Crist, a chysylltiad anuniongyrchol eu caer yn ne Lloegr a’r Brythoniaid yn rhoi digon o esgus i mi gynnig yr afal dindwll fel un o ddanteithion y Nadolig Gymreig...ac un o feddyginiaethau at yr hyn a ddeuai yn ei sgil![3]

Enwau golygu

merysbren eg merysbrennau, Merysbren, Afal Agored, Afal Tindwll, Dindoll, Meryswydden, Tinagored, Tindoll (medlar, Mespilus germanica)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. B.C. Bennett (undated). Economic Botany: Twenty-Five Economically Important Plant Families. [http: //www.eolss.net/Sample-Chapters/C09/E6-118-03.pdf Encyclopedia of Life Support Systems (EOLSS) e-book]
  3. Addasiad o erthygl gan Duncan Brown a ymddangosodd gyntaf yn Y Cymro
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: