Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr ail fesur deddfwriaethol a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Saesneg: Learner Travel (Wales) Measure 2008). Fe'i basiwyd gan y Cynulliad ar 30 Medi 2008[1] a daeth i rym ar 10 Rhagfyr 2008 pan derbyniodd sêl bendith y Frenhines.[2]

Prif amcan y mesur yw i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr addysg gynradd, uwchradd, a phellach yng Nghymru. Cyflwynwyd y mesur gan y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ieuan Wyn Jones AC.[1]

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu
Testun y mesur