Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Pennaeth staff Comisiwn Senedd Cymru yw Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru (a alwyd cyn 6 Mai 2020 yn Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cymru). Crëwyd y swydd i adlewyrchu pwerau ehangach y Cynulliad yn sgîl Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Cyn hynny roedd yn uwch-swyddog yn y gwasanaeth sifil ac yn bennaeth ar Wasanaeth Seneddol y Cynulliad.[1] Mae'r swydd yn cynnwys tair elfen: Prif Weithredwr Comisiwn y Senedd, Swyddog Cyfrifyddu, a Chlerc Senedd Cymru.[2]

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru

Yn ôl y Senedd, swyddogaethau'r Prif Weithredwr a Chlerc yw:

sicrhau bod gan y Cynulliad yr eiddo, y staff a'r gwasanaethau y mae arno eu hangen, a helpu i ddatblygu Cynulliad sy'n ennyn hyder ac sydd ag enw da yng Nghymru a thu hwnt am ddemocratiaeth gyraeddadwy ac effeithlon.[1]

O fis Mai 2007, roedd y Prif Weithredwr a'r Clerc yn arwain sefydliad a oedd yn annibynnol o Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn gyfrifol am sicrhau bod y Cynulliad yn cael ei ddarparu gyda'r adeiladau, y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen arno.

Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

golygu

Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru

golygu

Prif Weithredwr a Chlerc Senedd Cymru

golygu
  • Manon Antoniazzi, (Ebrill 2017 – presennol), o dan enw'r Cynulliad yn wreiddiol

Cyfeiriadau

golygu