Miley Cyrus

actwr a chanwr-gyfansoddwr

Mae Miley Ray Cyrus (ganwyd Destiny Hope Cyrus ar 23 Tachwedd 1992[1]) yn actores, cantores a chyfansoddwraig Americanaidd. Mae hi'n fwyaf enwog am serennu fel Miley Stewart/Hannah Montana yn y gyfres deledu Hannah Montana ar Sianel Disney.

Miley Cyrus
FfugenwMiley Cyrus Edit this on Wikidata
GanwydDestiny Hope Cyrus Edit this on Wikidata
23 Tachwedd 1992 Edit this on Wikidata
Nashville Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles, Franklin Edit this on Wikidata
Label recordioRCA Records, Columbia Records, Walt Disney Records, Hollywood Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • JMC Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, actor llais, actor teledu, actor ffilm, canwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHannah Montana, The Last Song Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, roc poblogaidd, pop dawns, electropop, cerddoriaeth roc, hip hop, teen pop, pop gwlad Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano, contralto Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadElvis Presley, Madonna, Dolly Parton, Timbaland, Joan Jett, Lil' Kim, Luisito Comunica, Hanson, OneRepublic, Britney Spears Edit this on Wikidata
TadBilly Ray Cyrus Edit this on Wikidata
MamTish Cyrus Edit this on Wikidata
PriodLiam Hemsworth Edit this on Wikidata
PartnerNick Jonas, Justin Gaston, Liam Hemsworth, Cody Simpson, Patrick Schwarzenegger, Lucas Till, Josh Bowman, Pete Davidson Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Time 100, Grammy Award for Best Pop Solo Performance, 'Disney Legends', Grammy Award for Record of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.mileycyrus.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Daeth Cyrus yn enwog pan ddechreuodd Hannah Montana ym Mawrth 2006. Yn sgil llwyddiant y sioe, rhyddhawyd CD i gyd-fynd â'r gyfres yn Hydref 2006 lle canodd Cyrus wyth cân o'r sioe. Yn Rhagfyr 2007, cafodd Cyrus ei gosod ar rif 17 ar restr Forbes o bobl ifanc o dan 25 oed sy'n ennill fwyaf o arian gyda chyflog blynyddol o $3.5 miliwn Americanaidd. Ers mis Rhagfyr 2007, mae hi wedi bod yn gweithio ar ffilm o'r enw Hannah Montana: The Movie sy'n deillio o lwyddiant Hannah Montana. Disgwylir i'r ffilm gael ei rhyddhau ar 10 Ebrill, 2009.[2]

Dechreuodd gyrfa gerddorol Cyrus pan ryddhawyd ei halbwm cyntaf, Meet Miley Cyrus ar y 23ain o Fehefin, 2007. Rhyddhawyd ei hail albwm, Breakout ar 22 Gorffennaf, 2008. Breakout yw albwm cyntaf Cyrus na sydd yn gysylltiedig â'r rhyddfraint Hannah Montana. Aeth y ddau albwm yn syth i rif 1 y Billboard 200.

Yn 2008, rhestrwyd Cyrus ymysg y 100 artist a diddanwr mwyaf dylanwadol yn y byd yng nghylchgrawn Time.

Ei bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Cyrus yn Nashville, Tennessee. Hi yw merch Leticia "Tish" (gynt Finley) a'r canwr gwlad Billy Ray Cyrus.[3] Mae ganddi hanner brawd hŷn, Christopher Cody, o berthynas blaenorol ei thad, brawd hŷn Trace, lleisiau a gitarau yn y band roc electronig Metro Station yng Nghaliffornia. Mae ganddi chwaer hŷn hefyd, Brandi, brawd iau, Braison a chwaer iau, Noah, sydd hefyd yn actores. Cafodd Cyrus ei henwi yn Destiny Hope am fod ei rheini'n credu y byddai'n cyflawni pethau mawr yn ei bywyd. Cafodd Cyrus ei ffug-enw "Miley" am ei bod bob amser yn gwenu ("Smiley") pan oedd hi yn blentyn.

Mynychodd Cyrus Ysgol Uwchradd Heritage lle'r oedd yn godwraig hwyl ond mae bellach yn mynd i'r ysgol yn Options For Youth. Mae ganddi diwtor personol hefyd ar set ei rhaglen deledu. Cafodd ei magu ar fferm ei rhieni tu allan i Nashville, Tennessee ac arferai fynychu Eglwys Y Bobl yno.

Ei Gyrfa Actio

golygu
 
Miley Cyrus a'i chi, Roadie

Dechreuodd Cyrus ymddiddori yn actio pan oedd yn naw mlwydd oed tra roedd ei theulu'n byw yn Toronto, Ontario, Canada. Cafodd ei rôl actio gyntaf ar gyfres deledu ei thad Doc, lle chwaraeodd ferch o'r enw Kylie. Yn 2003, cafodd ran "Young Ruthie" yn ffilm Tim Burton Big Fish a chafodd ei chredydu fel Destiny Cyrus. Ymddangosodd hefyd ar fideo cerddorol Rhonda Vincent "If Heartaches Have Wings", ac fe'i gwelwyd ar y Colgate Country Showdown gyda'i thad a oedd yn cyflwyno'r rhaglen.

Ei gyrfa Disney

golygu

Roedd Cyrus yn ddeuddeg mlwydd oed pan gafodd ei chlyweliad cyntaf gyda Disney am ran Miley Stewart/Hannah Montana, yn ogystal ag am rannau'r "ffrindiau gorau" ond teimlai swyddogion y Sianel Disney ei bod yn rhy fach. Fodd bynnag, roedd Cyrus yn benderfynol yn ei hawydd i chwarae rhan Hannah Montana, ac felly fe'i galwyd yn ôl am glyweliadau ychwanegol. Yn ôl Is-gyfarwyddwr y Disney Channel, Gary Marsh, dewiswyd Cyrus oherwydd ei pherfformiad bywiog, llawn bywyd ac fe'i hystyriwyd yn berson a oedd yn "loves every minute of life,".[4] Dywedwyd fod ganddi "everyday relatability of Hilary Duff and the stage presence of Shania Twain."[5] Treuliodd Cyrus flynyddoedd yn ceisio cael gwared â'i hacen ddeheuol, ond yn y pen draw roedd Disney eisiau iddi ei chadw. Ar hyn o bryd, mae Cyrus yn serennu yn Hannah Montana fel y prif gymeriad Miley Stewart, sydd hefyd yn gantores bop boblogaidd, Hannah Montana. Mae Cyrus hefyd yn perfformio yng nghymeriad Hannah Montana ar gyfer albymau a chyngherddau.

Cafodd Cyrus rôl cameo hefyd yn y ffilm deledu High School Musical 2, lle dawnsiodd cyn y credydau ar ddiwedd y ffilm o flaen pwll nofio, wrth wisgo gwisg felen a throwsus byr denim. Darparodd Cyrus y llais ar gyfer cymeriad Penny yn y ffilm animeiddiedig Bolt.

Wrth fynychu noson agoriadol Harry Potter and the Order of the Phoenix (ffilm), dywedodd Cyrus eu bod yn gweithio ar syniadau am ffilm Hannah Montana. Bydd y ffilm hon yn cael ei chynhyrchu gan ei thad, Billy Ray Cyrus.[6]

Ar y 4ydd o Ragfyr, 2008, cyhoeddodd Sun Times y bydd Cyrus yn gweithio ar brosiect arall gyda Disney — olynant i'r ffilm gomedi Adventures in Babysitting, a leolir yn Chicago. Bwriedir rhyddhau'r ffilm yn 2010.

Ei bywyd personol

golygu

Mae Cyrus yn ffrindiau da gyda'i chyd-actorion Hannah Montana, Emily Osment a Mitchel Musso, gan ddanfon negeseuon testun a ffonio'i gilydd yn ystod diwrnodau prysur. MAe hi hefyd yn ffrindiau gyda ser y ffilm deledu hynod boblogaidd High School Musical, gan gynnwys Vanessa Hudgens a Zac Efron.

Mewn ymddangosiad ar sioe Oprah Winfrey, dywedodd Cyrus mai ei thestun edmygedd oedd Hilary Duff. Mae nifer o anifeiliaid anwes, gan gynnwys ceffylau, cŵn, cathod, pysgod ac ieir ganddi. Ar y 29 Ionawr, 2008 cyhoeddodd Miley Cyrus ei bod yn bwriadu newid ei henw'n swyddogol i "Miley Ray Cyrus," gyda'i henw canol yn adlewyrchu enw ei thad. Newidiwyd ei henw'n swyddogol ar y 1 Mai, 2008.

Mewn cyfweliad gyda USA Today, dywedodd Cyrus mai ei ffydd yw "the main thing" ac mai dyma oedd y rheswm pam y mae'n gweithio yn Hollywood. Pan gafodd ei chyfweld gan Parade, ychwanegodd ei bod yn mynd i'r capel yn rheolaidd gyda'i theulu. Mewn cyfweliad gyda Christianity Today, dywedodd Billy Ray, "Being Christian, we believe in heaven," a "We also had a great church, and when you give up your church, your pastor, and the community you are involved in, you're making a big sacrifice. Let's face it, Hollywood is a completely different environment than Franklin, Tennessee."[7]

Ffilmyddiaeth

golygu
Film
Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
2003 Big Fish Ruthie Rhestrwyd fel "Destiny Cyrus"
2007 High School Musical 2 Merch wrth y pwll nofio Ymddangosiad Cameo
2008 Hannah Montana & Miley Cyrus: Best of Both Worlds Concert Hannah Montana/Ei hun Prif Rôl
Bolt Penny Llais
2009 Hannah Montana: The Movie Miley Stewart/Hannah Montana Prif Rôl
2010 Further Adventures in Babysitting Ôl-gynhyrchu
Teledu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2003 Doc Kylie Ymddangosiad arbennig
2006 The Suite Life of Zack and Cody Miley Stewart/Hannah Montana "That's So Suite Life of Hannah Montana"
Gêmau'r Disney Channel 2006 Ei Hun Rhaglen arbennig i'r Disney Channel
2006–presennol Hannah Montana Miley Stewart/Hannah Montana Prif Rôl
2007 The Emperor's New School Yatta Llais
''Gêmau'r Disney Channel 2007 Ei Hun Rhaglen arbennig i'r Disney Channel
2007–2008 The Replacements Celebrity Starr Llais
2008 Studio DC: Almost Live Ei Hun Rhaglen arbennig i'r Disney Channel

Disgyddiaeth

golygu
Albymau Stiwdio
Albymau Byw
Teithiau
Traciau Sain

Gwobrau

golygu
Blwyddyn Canlyniad Gwobr Categori Gweithiau a Enwebwyd
2007 Enillwyd Gwobrau Dewis y Plant Sianel Nickelodeon Hoff Actores Deledu Hannah Montana
Gwobrau Teen Choice Actores Gomedi Deledu
Artist Haf Dim
2008 Enwebwyd Gwobrau Fideos Cerddorol Artist Newydd Gorau 7 Things
2008 Enillwyd Gwobrau Teen Choice Artist Benywaidd Dim
Actores Gomedi Deledu Hannah Montana
Gwobr Artist Ifanc Perfformiad Gorau Mewn Cyfres Deledu
Gwobrau Dewis y Plant Nickelodeon Hoff Gantores Dim
Hoff Actores Deledu Hannah Montana
2008 Enwebwyd Gwobrau Cerddoriaeth Ewropeaidd MTV Act Newydd Dim
2008 Enillwyd Gwobrau Dewis y Plant Nickelodeon y DU Hoff Seren Deledu Benywaidd Dim
Gwobr Dewis y Plant - Nickelodeon Awstralia Hoff Gantores Ryngwladol
Hoff Seren Deledu Ryngwladol
2009 Enwebwyd Gwobrau'r People's Choice Hoff Seren People's Choice o dan 35 oed Dim
Gwobr Golden Globe Cân Wreiddiol Orau I Thought I Lost You
Gwobrau Cymdeithas y Beirniaid Darlledu Ffilm Cân Orau

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Bywgraffiad Miley Cyrus. Adalwyd 28-02-2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-30. Cyrchwyd 2009-02-28.
  2. "Gwefan Ffilmiau [[MTV]] Adalwyd 28-02-2009". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-01. Cyrchwyd 2009-02-28.
  3. The San Diego Tribune Adalwyd 28-02-2009
  4. Gwefan USAToday Adalwyd 01-03-2009
  5. Gwefan msn.com Adalwyd 01-03-2009
  6. 'Hannah Montana' Film In Development Gwefan buddytv.com Adalwyd 02-03-2009]
  7. Hosana Montana[dolen farw] Gwefan Christianity Today Adalwyd 02-03-2009]

Dolenni allanol

golygu