Milwr yn y Meddwl
Drama fuddugol cystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017 yw Milwr yn y Meddwl gan y llenor Heiddwen Tomos. Mae'r ddrama yn delio gyda PTSD a'i effaith ar filwr ifanc. Daeth i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o geisiadau.
Awdur | Heiddwen Tomos |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Pwnc | iechyd meddwl, PTSD |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Mae Ned wedi dod adref i orllewin Cymru o faes y gad. Ond mae ei brofiadau diweddar yn rhyfel Irac wedi gadael creithiau dyfnion; rhai’n greithiau gweledol, ac eraill – y rhai dyfnaf – yn anweledig.
Mae'r ddrama'n archwilio effaith trawma ar filwr o Gymro, wrth iddo ef a’i deulu geisio dod i delerau â digwyddiadau erchyll o’i orffennol a’r heriau newydd sy’n ei wynebu. Mae'r stori'n cyfosod cariad a pherthyn gyda'r "bwled a'r bom".[1]
Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth, “Mae’r ieithwedd yn llifo’n naturiol drwyddi draw. Mae yma dalpiau helaeth o fratiaith ac mae 'na ddefnydd o’r Saesneg ond nid diogi ieithyddol sydd yma. Cai’r Saesneg ei ddefnyddio fel llais y sefydliad milwrol Prydeinig sydd wedi gorthrymu'r prif gymeriad. Mae’r fratiaith yn adlewyrchu'r ffordd y mae aml i gymuned a haenau o gymdeithas yn y Gymru gyfoes yn defnyddio’r iaith. Os yw hynny’n drist, mae hefyd yn realistig, ac os mai pennaf fwriad drama yw codi drych at natur, yna’n sicr mae Twm Shwgryn yn gwneud hynny. Mae ganddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth glir o theatr ac o’r hyn sydd yn gweithio yn y cyfrwng".[2]
Cymeriadau
golygu- Ned - milwr
- Edward Thomas - Is-Gorporal
- Huw - brawd Ned
- Michelle - gwraig Ned
- Gor - tad Ned
- Swyddog y Fyddin
Cynyrchiadau Nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Genedlaethol Cymru yn Theatr y Maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.
Tîm cyfarwyddo:
- Cyfarwyddwr - Jac Ifan Moore
- Dylunydd Set a Gwisgoedd - Luned Gwawr Evans
- Cynllunydd goleuo - Ace McCarron
- Cynllunydd Sain - Dyfan Jones.
Cast:
- Ned / Edward - Ceri Owain Murphy
- Huw - Aled Bidder
- Michelle - Elin Phillips
- Gor - Phylip Harries
- Swyddog y Fyddin - Aled Bidder
Ni chafodd yr adolygydd theatr Lowri Cooke lawer o flas o weld y cynhyrchiad, yn ôl ei hadolygiad ar wefan Art Scene in Wales: "Sut mae dehongli drama sydd, ar bapur, yn llawn elfennau llwyddiannus, ac eto – o’i brofi yn y cnawd – yn eich diflasu? Aeth penwythnos hir heibio ers i mi brofi Milwr yn y Meddwl, a dwi wedi methu’n lân ag egluro paham na lwyddodd i’m cyffwrdd, fel y ‘dylai’, ac fel y gwnaeth â gwylwyr eraill."[3]
Ond cael ei blesio wnaeth y dramodydd Llŷr Titus yn ei adolygiad ar yr un wefan: "Drwyddo draw roedd hwn yn gynhyrchiad gweledol iawn a’r delweddau’n aml yn drawiadol ac yn helpu cyfleu effaith anhwylder pryder ôl-drawmatig a chyflwr meddyliol bregus Ned [...] Dyma gynhyrchiad gwahanol ac un bydd yn aros yn y cof am ei lwyfannu yn sicr. O’r cychwyn cyntaf roedd rhywun ar ddeall nad cynhyrchiad cwbl naturiolaidd oedd hwn."[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Milwr yn y Meddwl : Theatr Genedlaethol Cymru". meddwl.org. 2018-07-30. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ "Heiddwen Tomos yn ennill y Fedal Ddrama | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ "Milwr yn y Meddwl, Theatr Genedlaethol Cymru". Art Scene in Wales (yn Saesneg). 2018-08-15. Cyrchwyd 2024-08-24.
- ↑ "Milwr yn y Meddwl, Theatr Genedlaethol Cymru, Eisteddfod Cenedlaethol". Art Scene in Wales (yn Saesneg). 2018-08-10. Cyrchwyd 2024-08-24.