Morfa Rhuddlan
Morfa o dir isel gwlyb i'r gorllewin o dref Rhuddlan ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Morfa Rhuddlan (cyfeiriad grid SH9778). Mae'r rhan fwyaf o'r morfa yn gorwedd yn sir Conwy heddiw gyda rhan yn Sir Ddinbych.
Math | morfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhuddlan |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.29008°N 3.55048°W |
Mae'r trefi a phentrefi o gwmpas Morfa Rhuddlan yn cynnwys Abergele, Pensarn, Towyn, Bae Cinmel a Bodelwyddan. Gorwedd Afon Clwyd rhwng Morfa Rhuddlan a thref Rhuddlan ei hun. Llifa Afon Gele drwy'r morfa o gyfeiriad Abergele i ymuno ag Afon Clwyd i'r de o Fae Cinmel.
Brwydr Morfa Rhuddlan
golyguMae Morfa Rhuddlan yn adnabyddus yn hanes Cymru fel safle Brwydr Morfa Rhuddlan yn y flwyddyn 796, rhwng gwŷr Gwynedd dan arweiniad y brenin Caradog ap Meirion a gwŷr Mersia dan arweiniad Offa. Fe'i cofnodir yn yr Annales Cambriae. Fe'i cofir hyd heddiw fel cyflafan fawr. Daeth yn destun sawl awdl eisteddfodol yn y 19g a cheir tôn 'Morfa Rhuddlan'.
Llifogydd
golyguYn fwy diweddar mae'r morfa wedi dod yn enwog am y llifogydd, yn enwedig yn Nhywyn yn yr 1990au pan orlifiodd y môr dros y morglawdd. Cafodd nifer o fyngalos eu codi ar ogledd y morfa yn negawdau olaf yr 20g, a hynny er gwaethaf tystiolaeth yr enwau lleol am wlybder y tir, e.e. Ffarm y Gors, Glan-y-Gors.