Afon fechan yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Afon Gele. Mae'n un o ledneintiau Afon Clwyd. Ei hyd yw tua 7 milltir. Gorwedd yn bennaf yn sir Conwy gyda rhan ohoni yn Sir Ddinbych.

Afon Gele
Afon Gele ger Tywyn
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2945°N 3.5348°W Edit this on Wikidata
Map

Gorwedd tarddle'r afon yn y bryniau isel tua 3 milltir i'r de o dref Abergele, ger arfordir gogledd Cymru. Llifa i lawr i gyfeiriad y gogledd trwy gwm bychan i gyrraedd Abergele. Ar ôl llifo trwy'r dref farchnad honno mae hi'n troi i'r dwyrain. Llifa yn ei blaen trwy wlybdir eang Morfa Rhuddlan am tua 4 milltir i ymuno yn Afon Clwyd tua milltir i'r de o Fae Cinmel, ger Y Rhyl.

Yn ôl Ifor Williams, ffurf dafodieithol ar y gair Cymraeg Canol gelau (arf o ryw fath, blaen gwayffon neu llafn cleddyf efallai) yw gele.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ifor Williams, Enwau Lleoedd (Caerdydd, 1945), tud. 43.