Morfil Pengrwn
Morfil Pengrwn | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Cetartiodactyla |
Teulu: | Delphinidae |
Genws: | Globicephala |
Enw deuenwol | |
Globicephala melas (Traill 1809) |
Mamal sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Delphinidae ydy'r morfil pengrwn sy'n enw gwrywaidd; lluosog: morfilod pengrwn (Lladin: Globicephala melas; Saesneg: Long-finned pilot whale).
Mae ei diriogaeth yn cynnwys Awstralia, Cefnfor yr Iwerydda'r Cefnfor Tawel ac ar adegau mae i'w ganfod ger arfordir Cymru.
Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Diffyg Data' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[1]
Hanes yng Nghymru
golygu- Un o'r tiriadau mwyaf ar gofnod yng Nghymru oedd pod o forfilod pengrwn yng Nghonwy yng nghanol yr Ail Ryfel Byd:
- About the time of the D-Day landings [6 Meh 1944] many dead pilot whales were washed ashore in the Conway estuary. One morning as he was going to Dr Garretts home, Mr Thomas saw a dead whale near the house.....[2]
Cofnodion unigol
golygu- Corff y morfil pengrwn (neu morfil du, y long-finned pilot whale), Globicephala melaena wedi ei dirio ar draeth Llandanwg Rhagfyr 2009. Ystyr Globicephala yw 'pen crwn' , oherwydd fod gan y morfil ben crwn fel pêl. Ystyr melaena yw 'du' - dyma liw croen yr anifail. Un o deulu'r dolffiniaid ydyw, er mai morfil yw'r enw cyffredin arno.[3]
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o greaduriaid morol gwledydd Prydain
- Rhestr Goch yr IUCN, rhestr o greaduriaid wedi'u dosbarthu i 9 categori yn ôl niferoedd, prinder, cadwraeth ayb.
- Llwybr yr Arfordir
- Cadwraeth
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
- ↑ Steffan ab Owain: North Wales Weekly News 8 Tach 1956
- ↑ Sion Roberts, Bwletin Llên Natur rhif 24
- Gwefan Llên Natur; termau safonol.