Mudiadau cymdeithasol LHDT

(Ailgyfeiriad o Mudiad hawliau LHDT)

Mae gan fudiadau cymdeithasol lesbiaid, hoywon, deurywiol a thrawsrywiol yr un nodau o sicrhau fod rhywioldeb a lleiafrifoedd rhyw yn cael eu derbyn. Mae gan bobl lesbiad, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) draddodiad hir o ymgyrchu am yr hyn a elwir gan amlaf yn hawliau LHDT, ond cânt eu galw hefyd yn "hawliau hoyw" a "hawliau lesbiaid a hoywon". Gweithiodd nifer o gymunedau gyda'i gilydd, a hefyd yn annibynnol o'i gilydd mewn amryw o ffyrdd gan gynnwys rhyddhad hoyw, ffeministiaeth lesbiaidd, y mudiad "queer" a gweithredu trawsrywiol. Nid oes un sefydliad yn unig sydd yn cynrychioli buddiannau a diddordebau pobl LHDT, er y gellir dadlau fod dau sefdyliad yn dod yn agos at wneud hynny; InterPride sy'n cydlynu a rhwydweithio digwyddiadau balchder hoyw yn fyd eang, a'r Comisiwn Rhyngwladol dros Hawliau Dynol Hoyw a Lesbiaid sy'n taclo diffyg hawliau dynol yn erbyn pobl LHDT a phobl â HIV a gweithiant gyda'r Cenhedloedd Unedig. Yn gyffredinol, fe'i hystyrir yn fudiad sy'n cynnwys holl elfennau a diddordebau'r gymuned LHDT.

Gorymdaith hawliau LHDT yn Ninas Efrog Newydd yn 1976

Ym aml, dywedir mai'r nod ar gyfer pobl LHDT ydy cydraddoldeb cymdeithasol; mae rhai hefyd wedi ffocysu ar adeiladu cymunedau LHDT, neu barhau i weithio am agwedau mwy rhyddfrydol tuag at rywioldeb. Mae'r mudiadau LHDT a drefnir heddiw yn cynnwys ystod eang o weithredu gwleidyddol a gweithgarwch diwylliannol, megis lobïo a gorymdeithiau stryd; grŵpiau cymdeithasol, grŵpiau cymorth a digwyddiadau yn y gymuned; cylchgronau, ffilmiau a llenyddiaeth; ymchwil academaidd; a hyd yn oed gweithgarwch ym myd busnes.

Trosolwg

golygu
 
Gweithwyr o Gymdeithas Llinell Gymorth Tongzhi Taiwan yn cymryd rhan yng ngorymdaith Balchder Taiwan yn Taipei yn 2005.

Ysgrifenna'r cymdeithasegwraig Mary Bernstein: "Bryd hynny, roedd nodau'r mudiad lesbiaid a hoywon yn cynnwys (ymhlith pethau eraill) herio'r ddelwedd o wryweidd-dra benyweidd-dra, homoffobia, a'r syniad o deulu niwclear heterorywiol (heteronormadedd). Roedd eu nodau gwleidyddol yn cynnwys newid y gyfraith a pholisïau er mwyn derbyn hawliau newydd, budd-daliadau ac amddifyniad rhag niwed."[1] Pwysleisia Bernstein fod ymgyrchwyr yn ceisio y ddau fath o nod yn y meysydd sifil a gwleidyddol.

Fel gyda mudiadau cymdeithasol eraill, ceir gwrthdaro o fewn a rhwng mudiadau LHDT, yn enwedig ynglŷn â strategaethau ar gyfer newid. Ceir trafodaethau ynglŷn ag i ba raddau y mae lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol, trawsrywiol a rhyngrywiol yn wynebu'r un problemau ac am yr angen i gyd-weithio. Yn aml yn ystod y 1970au, 80au a'r 90au, ceisiodd arweinyddion y mudiad lesbiaid a hoywon guddio lesbiaid gwrywaidd, dynion hoyw benywaidd, pobl trawsrywiol a deurywiol rhag y cyhoedd, gan greu rhaniadau mewnol o fewn cymunedau LHDT.

Yn aml, mae mudiadau LHDT wedi mabwysiadu math o wleidyddiaeth hunaniaeth sy'n ystyried pobl hoyw, deurywiol a/neu bobl trawsrywiol fel dosbarth penodol o bobl. Mae'r rheiny sy'n defnyddio'r math yma o syniad yn anelu at nodau gwleidyddol rhyddfrydol fel rhyddid a chyfle cyfartal, gan anelu at wleidyddiaeth y brif ffrwd fel y wneir gan grwpiau eraill yn y gymdeithas. Wrth ddadlau fod cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rywiol yn rhan annatod o unigolyn ac na ellir ei newid, gwrthwynebir unrhyw ymgais i newid dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn heterorywiol ("therapi trawsnewid") gan y gymuned LHDT. Yn aml, seilir y therapi hyn ar gredoau crefyddol sy'n ystyried fod gweithgarwch dynion hoyw, lesbiaid a phobl deurywiol yn anfoesol.

Fodd bynnag, mae eraill o fewn mudiadau LHDT wedi beirniadu gwleidyddiaeth hunaniaeth gan ddweud ei fod yn gyfyng a chyda gwendidau amlwg. Dadleua elfennau o'r mudiad "queer" fod y categorïau hoyw a lesbiad yn rhy gyfyng, a cheisiasant waredu'r categorïau hyn, sydd yn "atgyfnerthu yn hytrach na herio system ddiwylliannol a fydd bob amser yn ystyried pobl na sydd yn heterorywiol yn israddol."[2]

Ar ôl y Chwyldro Ffrengig, arweiniodd teimlad gwrth-glerigol mewn gwledydd Catholig ynghyd â dylanwad rhyddfrydol y Cod Napoleanaidd, at wledydd yn ymbellhau wrth y deddfau sodomiaeth. Fodd bynnag, mewn gwledydd Protestanaidd, lle'r oedd ymateb yr eglwys yn llai llym, ni welwyd ymateb cyffredinol yn erbyn y deddfau a oedd wedi'u seilio ar grefydd. O ganlyniad, cadwodd nifer o'r gwledydd hynny eu deddfau sodomiaeth tan ddiwedd yr 20g. Dadleuodd y rheithgorwr Natsiaidd Rudolf Klare am oruchafiaeth moesol y traddodiadau Tiwtonaidd gwrth-gyfunrywiol llym (megis yr Almaen, Lloegr a'r thaleithiau'r Amerig dros wledydd LLadinaidd (megis Ffrainc, Sbaen, yr Eidal a Gwlad Pwyl) a oedd wedi peidio a chosbi gweithgarwch cyfunrywiol.

Cyn 1860

golygu

Yn Ewrop yn ystod y 18fed a'r 19g, yn gyffredinol ystyriwyd ymddygiad rhywiol cyfunrywiol a thrawswisgo yn annerbyniol, ac roeddent yn droseddau difrifol o dan y deddfau sodomiaeth a gwrthwariant. Fodd bynnag, roedd yna eithriadau. Yn ystod y 1600au er enghraifft, roedd trawswisgo'n gyffredin iawn mewn dramâu fel a welir yng nghynnwys mewn nifer o ddramâu William Shakespeare (a chan actorion yn y perfformiad go iawn, am fod y rôlau benywaidd yn y Theatr Elisabethaidd bob amser yn cael eu perfformio gan fechgyn, gan amlaf yn fechgyn blaenaeddfed). Parchai nifer o ddiwylliannau Americanaidd Cyntefig unigolion a oedd, yng nghyd-destun ein byd modern, yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol, gan ddatgan eu bod yn ymgorffori nodweddion dynion a menywod. Roedd unrhyw gymuned neu fywyd cymdeithasol hoyw yn guddiedig. Ysgrifennodd Thomas Cannon yr hyn sydd efallai yn un o'r amddifyniadau cyntaf o gyfunrywioldeb yn "English, Ancient and Modern Pederasty Investigated and Exemplify'd" (1749). Ysgrifennodd y diwygiwr cymdeithasol Jeremy Bentham y ddadl gyntaf o blaid diwygio'r gyraith cyfunrywiol yn Lloegr tua 1785, mewn cyfnod pan y gallwyd crogi person am sodomiaeth. Serch hynny, ofnai ddial ac ni chyhoeddwyd ei draethawd rymus tan 1978. Ym 1791 Ffrainc oedd y genedl gyntaf i ddad-droseddu cyfunrywioldeb, diolch i raddau i Jean Jacques Régis de Cambacérès, dyn hoyw a oedd yn un o awduron y Côd Napoleanaidd.

Ym 1833, ysgrifennodd bardd Saesneg amddifyniad barddonol o Gapten Nicholas Nicholls, a ddedfrydwyd i farwolaeth yn Llundain am sodomiaeth:

Whence spring these inclinations, rank and strong?

And harming no one, wherefore call them wrong?

Tair blynedd yn ddiweddarach yn y Swistir, cyhoeddodd Heinrich Hoessli y gyfrol gyntaf o Eros: Die Männerliebe der Griechen ("Eros: Cariad-gwrywaidd y Groegiaid"), amddiffyniad arall o gariad cyfunrywiol.

Yn groes i'r gred gyffredin, ni wnaed cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yng Ngwlad Pwyl a oedd yn draddodadiol Gatholig a cheidwadol. Yn ystod y 18g, gwelwyd agweddau ryddfrydol, ymlaciedig at rywioldeb, gyda ffigurau cyhoeddus ynghlwm a gweithgarwch cyfunrywiol neu drawswisgo. Tynnwyd sylw'r cyhoedd at ddigwyddiadau fel hyn, ond ni ddaethpwyd ag achos troseddol yn erbyn unrhyw un. Dim ond pan rannwyd tiriogaethau Gwlad Pwyl ac y daethant o dan reolaeth yr Ymerodraeth Rwsaidd, yr Ymerodraeth Awstri-Hwngaraidd a Theyrnas Prwsia y cyflwynwyd deddfau a wnaeth gweithgarwch cyfunrywiol yn anghyfreithlon. Serch hynny, parhaodd nifer o ffigurau blaenllaw i fod mewn perthynas cyfunrywiol, megis Narcyza Żmichowska (1819-1876), ysgrifenwraig a sylfaenydd y mudiad ffeministaidd Pwylaidd, a ddefnyddiodd ei phrofiadau ei hun yn ei hysgrifennu.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Bernstein, Mary (2002). "Identities and Politics: Toward a Historical Understanding of the Lesbian and Gay Movement". Social Science History 26:3 (fall 2002). Cyfieithiad o'r dyfyniad
  2. Bernstein (2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato