Muhammad al-Badr
Arweinydd crefyddol, gwleidyddol a milwrol o Iemen oedd Muhammad al-Badr bin Ahmad Hamid al-din (15 Chwefror 1926 – 6 Awst 1996) a deyrnasodd yn frenin ar y Deyrnas Mutawakkilaidd (Gogledd Iemen) am gyfnod byr ym 1962.
Muhammad al-Badr | |
---|---|
Ganwyd | 15 Chwefror 1926, 25 Chwefror 1929 Sana'a |
Bu farw | 6 Awst 1996 Llundain |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Yemen |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | king of Mutawakkilite Kingdom of Yemen, Imam of Yemen |
Tad | Ahmad bin Yahya |
Plant | Abdulla bin Ahmad hamidaddin |
Llinach | Rassid dynasty |
Gwobr/au | Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal |
Ganwyd yn Hajjah yng ngogledd-orllewin Iemen, yn fab i Sayf al-Islam Ahmad, llywodraethwr ar ran yr Imam Yahya, a Sharifa Safiyya bint Muhammad o'r teulu sayyid al-Issi o Shahara. Symudodd Muhammad i Taizz ym 1944, ac yno y bu ei dad yn ddirprwy yr Imam. Llofruddiwyd yr Imam Yahya ym 1948. Dychwelodd ei dad, Sayf al-Islam Ahmad, i Hajjah ac yno fe gasglodd y llwythau a datganodd ei hunan yn Imam al-Nasir. O fewn un mis o farwolaeth Yahya, llwyddodd al-Nasir i gipio'r brifddinas Sana'a a dienyddio'r gwrthryfelwyr. Cymerodd Muhammad yr enw Sayf al-Islam al-Badr, a chafodd ei benodi yn ddirprwy ei dad ym mhorthladd Hodeida ym 1949 a hefyd yn weinidog mewnwladol. Ym 1955, chwaraeodd ran wrth gwastrodi gwrthryfel ei ewythr, Sayf al-Islam Abdullah, a chafodd al-Badr ei ddatgan yn Dywysog Coronog. Gwasanaethodd yn swyddi gweinidog materion tramor a dirprwy ei dad dros Sana'a. Cafodd yr Imam Ahmad ei anafu'n ddifrifol mewn ymgais i'w lofruddio ym Mawrth 1961, ac felly cymerodd ei fab yr awenau dros y llywodraeth.[1]
Bu farw Ahmad ar 19 Medi 1962, a chafodd Muhammad ei ddatgan yn Imam al-Mansur Muhammad al-Badr, Brenin y Deyrnas Mutawakkilaidd.[1] Wythnos yn ddiweddarach, cafodd ei balas Dar al Bashair ei sielio gan chwyldroadwyr a sefydlasant Gweriniaeth Arabaidd Iemen ar 27 Medi. Llwyddodd al-Badr i ddianc a ffoi i'r gogledd. Cafodd gefnogaeth gan y llwythau Zaydi Shia, a'i alwodd yn Amir al-Mumineen ("Tywysog y Ffyddlon"). Enillodd gefnogaeth hefyd gan ei ewythr Sayf al-Islam al-Hasan a thywysogion y teulu Hamid al-Din. Cafodd y chwyldro a'r rhyfel ei gefnogi gan yr Aifft.
Parhaodd rhyfel cartref am 8 mlynedd, a brwydrodd al-Badr ochr yn ochr â'i ryfelwyr. Ym 1967 symudodd allan o'i bencadlysoedd ym mynyddoedd gogledd Iemen i Taif yn Sawdi Arabia. Ym 1970 cafodd Gweriniaeth Arabaidd Iemen ei chydnabod yn swyddogol gan lywodraeth Sawdi Arabia, er yr oedd mwyafrif o diriogaeth Iemen dan reolaeth al-Badr a theulu Hamid al-Din. Trodd al-Badr ei gefn ar Sawdi Arabia felly a symudodd i Loegr, a bu'n byw yng Nghaint. Dychwelodd i Sawdi Arabia i ymweld â dinasoedd sanctaidd Mecca a Medina ac i gwrdd â theulu a chyfeillion. Priododd teirgwaith,a chafodd dau fab a dwy ferch.[1] Bu farw yn Llundain yn 70 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) A. B. D. R. Eagle, Obituary: Imam Muhammad al-Badr, The Independent (13 Awst 1996). Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2017.