Mursen werdd brin

Lestes dryas
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Lestidae
Genws: Lestes
Rhywogaeth: L. dryas
Enw deuenwol
Lestes dryas
Kirby, 1890

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Lestidae (Teulu'r Mursennod Gwyrdd) yw'r Mursen werdd brin sydd o fewn y genws a elwir yn Lestes (llu: mursennod gwyrdd prin; Lladin: Lestes dryas; Saesneg: Scarce Emerald Damselfly; Saesneg Iwerddon: turlough spreadwing). Mae'r mursenod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen werdd brin i'w chael yn rhannau mwyaf gogleddol o Ewrasia a Gogledd America, ac yn ysbeidiol yng Ngogledd Affrica.[1] Gall L. dryas fyw mewn tymheredd eithafol, ac yn hyn o beth mae bron yn unigryw o'r holl furesennod.

Benyw L. dryas

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae'r oedolyn yn mesur rhwng 35 – 42 mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mehefin a Medi. Mae'r gwryw ychydig yn hirach na'r fenyw (47mm) ond mae adenydd y fenyw yn hirach na'r gwryw (45mm).[2]

Fel aelodau eraill y genws Lestes, mae lliw'r gwryw a'r fenyw yn wyrdd metalig, gyda gwawr efydd. Pan font yn llonydd, mae eu hadenydd yn gil-agored.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Boudot, J. 2014. Lestes dryas. Rhestr Goch yr IUCN. Adalwyd 2016.
  2. Watson, L., and Dallwitz, M. J. 2003 onwards. Lestes dryas (Kirby, 1890). Archifwyd 2016-03-19 yn y Peiriant Wayback. British insects: Dragonglies and Damselflies (Odonata). Adalwyd Ionawr 2012.

Dolen allanol golygu