Llwyn mwyar y Berwyn
Rubus chamaemorus | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Rubus |
Rhywogaeth: | R. chamaemorus |
Enw deuenwol | |
Rubus chamaemorus Carl Linnaeus | |
Planhigyn blodeuol sy'n frodorol o Hemisffer y Gogledd yw Llwyn mwyar y Berwyn sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Rosaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Rubus chamaemorus a'r enw Saesneg yw Cloudberry.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Mwyaren y Berwyn, Afal y Berwyn, Miaren Gor, Miaren y Mynydd, Mwyar Doewan, Mwyar Gleision, Mwyar y Berwyn, Mwyaren Doewan.
Mae'r teulu Rosaceae yn perthyn i'r genws Rosa (rhosyn) fel ag y mae'r cotoneaster a'r eirinen. Prif nodwedd y teulu yw ei ffrwythau amrywiol a phwysig i economi gwledydd.[2] Ceir 5 sepal, 5 petal ac mae'r briger wedi'u gosod mewn sbeiral sy'n ffurfio llestr tebyg i gwpan o'r enw hypanthiwm.
Ffisioleg a ffenoleg
golyguMae mwyar y Berwyn Rubus chamaemorus, gyda’i ffrwythau suddlon eurfelyn, yn fynychydd gweundiroedd uchel a gorgorsydd mawnaidd. Mae hadau’r planhigyn hwn angen o leiaf 5 mis o dymheredd rhwng 4 °C a 5 °C cyn y caiff ei ffrwythlonni. Nid yw’r angen ffisiolegol hon am dymheredd gaeaf isel yn anghyffredin o gwbl ac mae’n ymddangos hefyd mewn trychfilod ac amffibiaid.[3]
Llên Gwerin
golyguYn rhifyn 16 Gorffennaf 1873 o Faner ac Amserau Cymru gwelir y cyfeiriad difyr hwn at Fwyar y Berwyn:
- Dywedir fod yn y 5ed ganrif sant o'r enw Donwar yn preswylio yn Llanrhaeadr ym Mochnant... y traddodiad ymhlith hen fugeiliaid Berwyn ydoedd mai'r hyn a dderbyniai Dewi Sant bob blwyddyn am ei wasanaeth yn Llanrhaeadr oedd chwart o fwyar Berwyn, a hefyd ei bod yn hen arferiad a deddf yn y plwyf fod y sawl a ddygai chwart o'r mwyar hyn yn aeddfed i'r parson [sic] ar fore dydd gŵyl Donwar a gaed maddeuant o'r hyn a oedd yn ddyledus fel taliadau eglwys am flwyddyn. Enw gwyddonol y llysieuyn yw 'Rubus Chamoemorus’, ac mewn rhai blynyddoedd bydd ei ffrwyth yn dra phrin. Dywedir i dad Syr Watkyn gynnyg [sic] pum swllt amryw droion am bob mwyaren aeddfed a ddygid iddo. Ni wyddid paham yr oedd yn rhoddi'r fath bris arnynt.”[4]
- CYWYDD BERWYN gan Cynddelw
- "Mwyar Doefon" mawr dyfiad;
- Mwyara a llusa'n llon
- Mewn byd wyf man bu Doefon
- Ar garn y bre ger ein bron,
- Yn foreu'i caid ar frig gwyn
- Mor bur a mwyar Berwyn[5]
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ B.C. Bennett (undated). Economic Botany: Twenty-Five Economically Important Plant Families. [http: //www.eolss.net/Sample-Chapters/C09/E6-118-03.pdf Encyclopedia of Life Support Systems (EOLSS) e-book]
- ↑ Beebee, T. (2018) Climate Change and Wildlife, ‘’Bloomsbury Wildlife’’
- ↑ Viv Williams, Blaenau Ffestiniog (ym Mwletin Llên Natur rhif 31, 2010
- ↑ Robin Gwyndaf (cys. pers)