Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro
42°45′18.09″N 8°14′48.34″W / 42.7550250°N 8.2467611°WCyfesurynnau: 42°45′18.09″N 8°14′48.34″W / 42.7550250°N 8.2467611°W
San Lourenzo de Carboeiro | |
---|---|
Y mynachdy o'r tu allan | |
Enwau eraill | Mosteiro de San Lourenzo de Carboeiro |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Arddull bensaernïol | Romanesque |
Lleoliad | Pontevedra, Galisia |
Gwlad | Sbaen |
Dechrau adeiladu | cyn 939 |
Cynllunio ac adeiladu | |
Client | Urdd Sant Bened |
Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro yw un o adeialdau pwysicaf o ran ei bensaerniaeth Romanesque yng Ngalisia sy'n un o wledydd ymreolaethol Sbaen. Fe'i lleolwyd ger Afon Deza yn Carboeiro, Silleda, Rhanbarth Pontevedra. Meudwy o'r enw Egica oedd perchennog y tir ac fe'i gwerthodd cyn 939 i Doña Tareixa Eiriz a Don Gonzalo Betote, ieirll o Deza.
Roedd y mynachdy'n perthyn i Urdd Sant Bened a gellir ei olrhain yn ôl i'r 10g. Roedd yn ei anterth rhwng y 11fed a'r 12g ac mae heddiw'n dal i fod mewn cyflwr da yn dilyn gwaith adfer yn ail hanner yr 20g. Yn 2015 roedd y gwaith o gynnal a chadw'r adeilad wedi ailddechrau. Saif y trefi Vigo 101 Km i ffwrdd, gyda Pontevedra 75 Km, Ourense 76 Km a Santiago de Compostela 38 Km.[1]
Ceir tair ystlys gyda phedwearedd ar hyd y groesfa (neu 'transept'). Ceir pedair colofn o bopty'r fynedfa fwaog, garreg - sy'n frith o gerfiadau o gymeriadau (cerddorion yn bennaf) allan o Lyfr y Datguddiad - pencampwaith o gelfyddyd yn ôl y pensaeri "heb ei debyg yn unman arall". Fodd bynnag mae'r fynedfa i Portal of La Gloria, sydd yn eithaf agos, yr un mor gywrain.
Dechreuodd y dirywiad yn y 15g, ac yn 1500 drwy orchymyn gan Ferdinand ac Isabella, fe'i israddiwyd i statws 'priordy' gyda rhan ohono'n mynd i berchnogaeth fferm. Ar un cyfnod, bu'n garchar. Ceir ar y muriau ambell ysgrif, gan gynnwys: 'ERA MCCVIIII KALENDAS' IY sef: 'Y Cyntaf o Fehefin 1171'.
Ffilm
golyguYn 1965, ffilmiwyd Cotolay ym Mynachdy San Lourenzo de Carboeiro, wedi'i chynhyrchu gan Nieves Conde, gyda nifer o drigolion lleol yr ardal yn cymryd rhan.
-
O gyfeiriad y de
-
Colofnau'r gladdgell, sy'n mesur 35 x 14 metr
-
Croes mewn carreg
-
Allor a godwyd rhwng 1171-1192
-
Bedd yr Abad Fernando
-
Y prif borth
-
Llun manwl o'r cerfiadau carreg
-
Murlun
-
Murlun: llun manwl
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.turgalicia.es; Saesneg; adalwyd 29 Mehefin 2015