Craig Freiddin
Bryn ym Mhowys, Cymru, yw Craig Freiddin. Saif uwchben Afon Hafren i'r gogledd o'r Trallwng, yn un o gopan bryniau Breiddin. Ffurfiwyd y bryn o ddolerit, a bu gynt yn llosgfynydd.[1] Mae'r bryn yn 1203 troedfedd o uchder.[2]
Math | bryn, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 366.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.72277°N 3.04511°W |
Cod OS | SJ2951214417 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 106.7 metr |
Rhiant gopa | Moel y Golfa |
Enw
golyguGwelir weithiau ddefnyddio'r enw Breiddin i gyfeirio'n benodol at y bryn hwn, ond gan amlaf cyfeirio at yr ardal ehangach o fryniau sy'n cynnwys Craig Freiddin, Moel y Golfa a Chefn y Castell (Middletown Hill) a wna'r enw Breiddin.[3] Enw arall yw Talfreiddin.[4]
Ceir sawl cyfeiriad at Graig Freiddin mewn testunau llenyddol. Ceir y cynharaf gan y bardd Maredudd ap Rhys (15g.) wrth ganmol 'Syr' Siôn Mechain, person Llandrinio: 'Fo rydd ym mron craig Freiddin / Fwyd ac aur wrth yfed gwin'.[5]
Yn ei gerdd 'Hanes Tair Sir ar Ddeg Cymru' mae Dafydd Thomas (fl. c. 1750) yn disgrifio gweithgaredd merched Sir Drefaldwyn 'O Graig Freiddin i Langynnog'.[6]
Wrth ddisgrifio taith reilffordd yn 1866, nododd Robert Ellis (Cynddelw), brodor o Sir Drefaldwyn, 'Dyna graig y Freiddyn a Digoll fynydd ar y llaw chwith i ni, lle bu ein tadau dewrion yn ymladd llawer brwydr waedlyd am eu gwlad a'u rhyddid'.[7]
Yn 1897, cynhwysoddd Emrys ap Iwan 'Craig Freiddin' (= 'Breiddyn Hill)' yn ei restr o enwau lleoedd Cymraeg a oedd wedi cael eu Seisnigo.[8]
Bryngaer Breiddin
golyguMae olion Bryngaer Breiddin (Cyfeirnod OS: SJ29401432), a elwir weithiau wrth yr enw Caer Freiddin, ar y copa. Mae'r safle'r fryngaer yn 28 ha.[9] Fe'i sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac fe'i datblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.[10]
Difethwyd y rhan fwyaf o'r fryngaer gan chwarel ar ochr orllewinol y bryn. Defnyddir cynnyrch y chwarel i adeiladu ffyrdd.
Colofn Rodney
golyguSaif Colofn Rodney ar gopa'r bryn. Adeiladwyd y golofn yn sgil codi arian yn 1781 gan drigolion y sir i gofnodi bod coed derw wedi eu cludo o'r ardal ac i lawr Afon Hafren i Fryste, lle adeiladwyd fflyd y Llyngesydd Rodney.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Christopher Somerville
- ↑ Gwefan hill-bagging.co.uk
- ↑ Enid P. Roberts, 'Enwau Lleoedd Bro'r Eisteddfod', yn Gwynn ap Gwilym a Richard H. Lewis (gol.), Bro'r Eisteddfod (cyflwyniad i Faldwyn a'r Cyffiniau) (Abertawe: Gwasg Christopher Davies, 1981), t. 23.
- ↑ Henry Rowlands 'Henri Myllin', 'Talfreiddyn', Cymru, 19 (1900), 217–18.
- ↑ Enid P. Roberts (gol.), Gwaith Maredudd ap Rhys a'i Gyfoedion (Aberystwyth: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2003), 4.9.
- ↑ E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Cyhoeddiadau Barddas a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: e-argraffiad 2016), t. 254.
- ↑ Cynddelw, 'Y Daith Gyntaf a'r Ddiweddaf', Seren Cymru, 23 Tachwedd 1866, t. 2.
- ↑ Emrys ap Iwan, 'Seisnigo Enwau Cymreig', Y Geninen, 15.1 (Ionawr 1897), 5.
- ↑ "Adroddiad gan CADW" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-12-18. Cyrchwyd 2016-12-04.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-08. Cyrchwyd 2016-12-04.
- ↑ "Gwefan oswestry-welshborders.org.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-29. Cyrchwyd 2016-10-13.
-
Coed ar lethr Craig Freiddin
-
Colofn Rodney