Mae talaith Tiwnis (Arabeg: ولاية تونس , Ffrangeg: Gouvernorat de Tunis), a greuwyd ar 21 Mehefin 1956, yn un o 24 talaith Tiwnisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Tiwnisia ac mae ganddi arwynebedd o 346 km² (sef 0.2% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o tua 989,000 (amcangyfrifiad 2006). Ei chanolfan weinyddol yw Tiwnis, prifddinas Tiwnisia.

Tunis
Delwedd:Vue Tunis.jpg, Siège du Gouvernorat de Tunis, 2019.jpg
MathTaleithiau Tiwnisia Edit this on Wikidata
PrifddinasTiwnis Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,056,247 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Mehefin 1956 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCET Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTiwnisia Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Arwynebedd346 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr11 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.8°N 10.17°E Edit this on Wikidata
Cod post10xx Edit this on Wikidata
TN-11 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad talaith Tiwnis yn Nhiwnisia

Daearyddiaeth golygu

Talaith Tiwnis yw rhanbarth economaidd pwysicaf y wlad. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir, o gwmpas Lac Tunis ar lan orllewinol Gwlff Tiwnis. Mae'r hinsawdd yn nodweddiadol o Fôr y Canoldir gyda tua 470 mm o law y flwyddyn a hafau poeth.

Yn weinyddol, ymrennir y dalaith yn 21 délégation (ardal), 8 municipalité ac 161 imada (ardal leol).

Délégation Poblogaeth yn 2004
(nifer)
Bab El Bhar 39,806
Bab Souika 33,284
Carthago 20,715
Cité El Khadhra 36,818
Djebel Djelloud 26,490
El Hrairia 96,245
El Kabaria 81,261
El Menzah 43,320
El Omrane 40,801
El Omrane Supérieur 62,138
El Ouardia 33,734
Ettahrir 21,956
Ezzouhour 40,434
La Goulette 28,407
La Marsa 77,890
La Médina 26,703
Le Bardo 70,244
Le Kram 58,152
Sidi El Béchir 29,911
Sidi Hassine 79,381
Séjoumi 36,171

Dinasoedd a threfi golygu

Economi golygu

 
Llun lloeren o dalaith Tiwnis

Lleolir maes awyr mwyaf y wlad (Maes awyr Tiwnis-Carthago) a phorthladd La Goulette, sy'n derbyn 98% o draffig forol y wlad, yn y dalaith. Diwydiant yw'r sector pwysicaf, er bod masnachu yn bwysig hefyd. Ceir pedair Ardal Ddiwydiannol sy'n cynnwys 273 hectar :

Y prif ddiwydiannau yw brethyn a dillad, lledr a sgidiau a nwyddau electronig a thrydan.

Mae'r ystadegau economaidd fel a ganlyn :

  • Masnach a gwasanaethau : 49.4%
  • Diwydiannau, ynni, gwaith adeiladau cyhoeddus : 34.3%
  • Amaeth a pysgota : 16.3%
  • Diweithdra : 14.2%

Diwylliant golygu

Tiwnis yw canolfan ddiwylliannol y wlad. Lleolir y rhan fwyaf o wasanaethau radio a theledu Tiwnisia yno.

Timau pêl-droed golygu

Taleithiau Tiwnisia  
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tiwnis | Zaghouan