Drama gan Angharad Price yw Nansi a gyhoeddwyd yn 2016 gan Theatr Genedlaethol Cymru. Man cyhoeddi: Caerfyrddin, Cymru.[1]

Nansi
AwdurAngharad Price
CyhoeddwrTheatr Genedlaethol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi03/06/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781784612993
GenreDramâu Cymraeg

Prif gymeriadd y ddrama yw'r delynores Nansi Richards a deithiodd o Faldwyn i Lundain ac yna i America, wrth iddi swyno'i chynulleidfaoedd â'i dawn a'i hysbryd rhyfeddol. Yn y 1920au a'i gyrfa ar ei hanterth, mae telynores enwocaf Cymru yn sefyll ar groesffordd: a oes lle i gariad arall yn ei bywyd, heblaw'r delyn?

Magwyd Angharad Price ym Methel, Arfon. Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, a chafodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Gymraeg y 1990au. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gyda'’r nofel O! Tyn y Gorchudd (Gomer) ac enwyd y gyfrol yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Mae Angharad yn uwch ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017