Nantporth

Stadiwm bêl-droed ar Ffordd Caergybi, Bangor, Gwynedd ydy Nantporth. Mae'r stadiwm yn cael ei adnabod, am resymau nawdd, fel Stadiwm BookPeople.

Nantporth
Nantporth.jpg
Mathstadiwm, lleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol24 Ionawr 2012 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBangor Edit this on Wikidata
SirBangor Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2255°N 4.1501°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganC.P.D. Dinas Bangor Edit this on Wikidata
PerchnogaethCyngor Gwynedd Edit this on Wikidata
Nantporth
Stadiwm nantporth.JPG
Enw(au) blaenorolCae Y Normal
LleoliadBangor, Gwynedd, Wales
Cyfesurynnau53°13′31.63″N 4°09′00.50″W / 53.2254528°N 4.1501389°W / 53.2254528; -4.1501389
PerchennogCyngor Gwynedd
GweithredwrC.P.D. Dinas Bangor
Uchafswm Torf3,000 (1,100 o seddi)
MaesGwair
Agorwyd24 Ionawr 2012
Tenantiaid
C.P.D. Dinas Bangor (2012-)

Cyn codi'r stadiwm, roedd y caeau yn cael eu defnyddio gan glybiau pêl-droed a rygbi Prifysgol Bangor yn ogystal ac ar gyfer darlithoedd yr adranau Gwyddor Chwaraeon ac Addysg yn y Brifysgol.

Mae gan y stadiwm, sy'n dal uchafswm o 3,000 o dorf, 1,147 o seddi, ac mae'n gartref i Glwb Pêl-droed Dinas Bangor ers mis Ionawr 2012[1] pan symudodd y clwb o'u maes blaenorol yn Ffordd Farrar.

Chwaraeodd Bangor eu gemau cartref yng Nghynghrair Europa yn erbyn Zimbru Chisinau a Stjarnan ar y maes ac yn ogystal â rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2011-12 mae Nantporth wedi cynnal gemau rhagbrofol UEFA Cymru dan 21[2][3][4] a gêm rhagbrofol Cwpan y Byd tîm Merched Cymru[5].

Gyda chymorth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Prifysgol Bangor, Sport Wales a Chyngor Dinas Bangor[6] mae maes 3G wedi ei osod ar yr un safle a'r stadiwm.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu

  1. "Bangor City FC: Stadium Details". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-04. Cyrchwyd 2014-08-30. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Wales 1-5 Finland". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Wales 4-0 San Marino". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Wales 2-0 Lithuania". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Wales 4-0 Montenegro". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Bangor celebrates new all-weather pitch for students and local community". Unknown parameter |published= ignored (help)