Nantwich
Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Nantwich[1] (neu Yr Heledd Wen yn y Gymraeg weithiau). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Dwyrain Swydd Gaer. Gorwedd ar lan Afon Weaver a Chamlas Undeb Swydd Amwythig.
Stryd "Welsh Row", Nantwich | |
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Dwyrain Swydd Gaer |
Poblogaeth | 14,051 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaer (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Edleston, Henhull |
Cyfesurynnau | 53.067°N 2.522°W |
Cod SYG | E04013198 |
Cod OS | SJ652523 |
Cod post | CW5 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 13,964.[2]
Yn hanesyddol bu'n enwog am ei diwydiant halen. Mae'n adnabyddus am ei hadeiladau gwyn a du hynafol, hanner pren, sy'n cynnwys tri adeilad rhestredig graddfa I. Mae Caerdydd 182.1 km i ffwrdd o Nantwich ac mae Llundain yn 238.3 km. Y ddinas agosaf ydy Stoke-on-Trent sy'n 22.5 km i ffwrdd.
Lleolir y dref tua 5 milltir i'r de-orllewin o Crewe. Mae'n groesffordd hanesyddol gyda'r priffyrdd A530, A529 ac A534 yn ymledu ohoni. Mae'r briffordd A534/A51 yn osgoi'r dref i'r gogledd a'r dwyrain.
Ceir terfyn gogleddol Camlas Llangollen i'r gogledd-orllewin o Nantwich, ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig. Adlewyrchir y cysylltiad â Chymru yn yr enw stryd 'Welsh Row' ac efallai yn elfen gyntaf enw'r dref ei hun, sef nant.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Amgueddfa Nantwich
- Capel yr Annibynwyr
- Churche's Mansion
- Eglwys Santes Fair
- Gwesty'r Coron
- Neuadd Dorfold
- Tŷ Townwell
Enwogion
golygu- Syr Randolph Crewe (1559–1646), barnwr
- George Latham (m. 1871), pensaer
- William Pickersgill (1861–1928), peiriannydd
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2019
- ↑ City Population; adalwyd 7 Medi 2020
Dinas
Caer
Trefi
Alsager ·
Birchwood ·
Bollington ·
Congleton ·
Crewe ·
Ellesmere Port ·
Frodsham ·
Knutsford ·
Macclesfield ·
Middlewich ·
Nantwich ·
Neston ·
Northwich ·
Poynton ·
Runcorn ·
Sandbach ·
Warrington ·
Widnes ·
Wilmslow ·
Winsford