Naruhito, Ymerawdwr Japan

Ymerawdwr Siapan

Naruhito (Siapanëeg: 徳仁?) / Na'ɺ̠ɯçito / Tôcio, 23 Chwefror 1960), yw Ymerawdwr Siapan. Ei llawn yn Hiro-no-miya Naruhito Shinnō (浩 宮 徳 仁 親王?), Ef yw mab hynaf yr cyn-Ymerawdwr Akihito a'r Ymerodres Michiko. Naruhito yw'r cyntaf mewn olyniaeth i ddod yn 126fed ymerawdwr Gorsedd yr Eurflodyn (neu Gorsedd Chrysanthemum) a'r cyntaf i'w enw wedi'r Ail Ryfel Byd. Mae'n briod â Masako Owada, merch cyn-Weinidog Materion Tramor Siapan ac wyres i'r dyn busnes Yutaka Egashira.

Naruhito, Ymerawdwr Japan
Ganwyd浩宮徳仁親王 Edit this on Wikidata
23 Chwefror 1960 Edit this on Wikidata
Hospital of the Imperial Household Edit this on Wikidata
Man preswylTokyo Imperial Palace Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
AddysgBachelor of Letters, gradd meistr, Master of Humanities, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethteyrn, pendefig Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Japan, Crown Prince of Japan, etifedd eglur Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Thames and I Edit this on Wikidata
TadAkihito, Ymerawdwr Japan Edit this on Wikidata
MamMichiko Edit this on Wikidata
PriodEmpress Masako Edit this on Wikidata
PlantAiko, Princess Toshi Edit this on Wikidata
LlinachLlys Ymerodrol Japan Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Gorseddwyd Naruhito ar 1 Mai 2019 wedi i'w dad, yr Ymeradwr Akihito ymddeol o'r cyfrifoldeb o'i wirfodd. Cyferchir ef bellach fel 'Ei Fawrhydi Imperialaidd'.

Bywgraffiad golygu

 
Naruhito yn fabi yn 1961

Ganwyd Naruhito yn Ysbyty Asiantaeth y Tŷ Ymerodrol yn y Palas Ymerodrol yn y brifddinas, Tokyo. O'i enedigaeth cafodd ei ddysgu beth fyddai ei rôl yn y dyfodol. Ef yw'r unig etifedd i orsedd Siapan sydd wedi derbyn addysg mor ofalus a byd-eang. Addysgwyd ef ym Mhalas Tsugo dan archebion llym. Gyda'i oed yn cyrraedd, anfonodd yr ymerawdwyr ef i astudio Hanes yng Coleg Merton, Rhydychen, Lloegr, lle bu'n amddiffyn ei draethawd ymchwil ar longau ar Afon Tafwys yn y 18g. Ar ôl dychwelyd i Siapan, ymrestrodd ym Mhrifysgol Gakushūin, gan ennill gradd Hanes ac arbenigo mewn Hanes Canoloesol Siapan. Yn ogystal, â siarad Siapanëeg a Saesneg mae'n siarad Tsieinëeg, Almaeneg a pheth Sbaeneg. Yn ogystal, mae Naruhito yn canu'r fiola a'r ffidil.

Ers oed ifanc bu Naruhito yn cynrychioli ei dad sawl gwaith. Yn ei ddyddiau myfyrwyr, teithiodd yn eang ond dywedir ei fod yn cadw'n ffyddlon at draddodiadol cynhenid Siapan.

Etifeddodd yr orsedd ar 1 Mai 2019 a hynny wedi dwy flynedd o rybudd wedi i'w dad, Ymerawdwr Akihito, gyhoeddi yn 2017 y byddai'n ymddiswyddo ar 30 Ebrill 2019 oherwydd ei broblemau oedran a gwendid iechyd.[1]

Priodas ac etifedd golygu

Priododd Naruhito ei wraig, Masako Owada, 9 Mehefin 1993 mewn ddefod Shinto; parhaodd y dathliadau ar gyfer yr uniad priodasol am dri diwrnod. Er iddo ddewis ei wraig o blith nifer o fenywod ar restr, mae wedi datgan ei fod mewn cariad llwyr â hi. Ar 31 Rhagfyr 1999, cafodd y Dywysygoes (fel oedd hi ar y pryd) Masako erthyliad.

Aiko, a aned ar 1 Rhagfyr 2001 golygu

Yn 2001 ganed Aiko, merch i'r pâr brenhinol. Roedd y ffaith bod merch wedi ei geni yn codi dadl genedlaethol gref dros newid Cyfraith Olyniaeth i'r Orsedd, gan na all menywod deyrnasu teyrnas Siapan. Ond penderfynwyd peidio newid rheol llinach y teulu brenhinol wedi igenedigaeth Hisahito, wyr gyntaf y cyn-Ymeradwr Akihito a chefnder i Aiko.

Teyrnasiad golygu

Ar adeg ei orseddi gelwir ei gyfnod fel Ymeradwr yn swyddogol fel 'Oes Reiwa' gan y Prif Weinidog Shinzo Abe. Ystyr Reiwa yw "harmoni prydferth".[2].

Nawdd golygu

  • Llywydd Anrhydeddus Bwrdd Cynghori Ysgrifenyddiaeth Gyffredinol y Cenhedloedd Unedig dros Ddŵr a Glanweithdra.
  • Is-lywydd Anrhydedd y Groes Goch Siapan

Cyfeiriadau golygu