Navasana (Y Cwch)

asana, neu safle mewn ioga

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Navasana, Naukasana, y Cwch, neu Paripurna Navasana (Sansgrit: परिपूर्णनावासन; IAST: paripūrṇanāvāsana "Y Cwch yn llawn"). Asana cydbwyso ac asana eisteddyw'r osgo yma, ac fe'i ceir mewn ioga modern fel ymarfer corff.[1]

Navasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit नाव nava sy'n golygu "cwch" ac आसन asana sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff".[2][3]

Darluniwyd yr asana hwn yn Sritattvanidhi testun o'r 19g dan yr enw Naukāsana, sydd hefyd yn golygu asana cwch.[4]

Amrywiadau golygu

 
Ardha Navasana

Ymhlith yr amrywiadau mae'r Ardha Navasana sydd gryn dipyn yn haws (Sansgrit: अर्धनावासन; "Hanner cwch") gyda thraed a chorff yn hanner codi o'r llawr,[5] ac Eka Pada Navasana ("cwch ungoes").

 
Amrywiad arall: Ubhaya Padangusthasana

Mae gan yr asana anoddach Ubhaya Padangusthasana ddwy law yn gafael ym mysedd y traed neu'r traed eu hunain.[6]

Mae'n debyg iawn i Paschimottanasana.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yoga Journal - Full Boat Pose". Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. Active Interest Media (1996). Yoga Journal. Active Interest Media. t. 51. ISSN 0191-0965.
  3. Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  4. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. t. 69. ISBN 81-7017-389-2.
  5. "Ardha Navasana (Half Boat Pose)". Cyrchwyd 2011-04-09.
  6. Halweil, Erika (26 Chwefror 2018). "Challenge Pose: Ubhaya Padangusthasana". Yoga Journal.

Llyfryddiaeth golygu