Paschimottanasana

asana eistedd o fewn ioga Hatha a modern

Asana o fewn ymarferion ioga yw Pashchimottanasana (Sansgrit: पश्चिमोत्तानासन; IAST: paścimottānāsana), bathiad Cymraeg: Eistedd a Phlygu Mlaen.[1] Mae'n hen osgo, ac fe'i ceir o fewn ioga hatha ac mewn ioga modern fel ymarfer corff heddiw.[2] Caiff ei ystyried yn asana eistedd.

Paschimottanasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas eistedd, ioga Hatha Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Pashchimottanasana

Geirdarddiad

golygu
 
Darluniau o osgo'r corff (asana) Paschimottanasana, mewn llawysgrif o1830 o'r Jogapradipika

Daw'r enw o'r geiriau Sansgrit paschima (पश्चिम, paścima) sy'n golygu yn y cyswllt yma "cefn y corff";[3] uttana (उत्तान, uttāna) sy'n golygu "ymestyn dwys" neu "sythu";[4] ac asana (आसन, āsana) sy'n golygu "osgo" neu "siap y corff" [5]

Disgrifir yr ystum yn Ioga Hatha Pradipika o'r 15g, pennod 1, adnodau 28-29.

Disgrifiad

golygu

Mae'r ystum yn dilyn y Dandasana (Y Ffon) trwy blygu ymlaen o'r cluniau heb straenio, a gafael yn y traed neu waelod y coesau. Gellir gosod strap o amgylch y traed a'i ddal yn y dwylo os yw'r cefn yn anystwyth. Gellir gorffwys y pen ar flanced wedi'i blygu neu ei godi ar stôl fach os oes angen.[6][7]

Dylai pobl sy'n cael anhawster plygu eu cefnau fod yn ofalus wrth berfformio'r asana hwn.[8]

Amrywiadau

golygu

Mae Urdhva Mukha Paschimottanasana, a elwir hefyd yn Ubhaya Padangusthasana, yn ffurf gydbwyso o'r asana yma, lle mae'r coesau a'r dwylo'n pwyntio i fyny.[9][10]

Parivritta Paschimottanasana yw ffurf wrthdro yr ystum; yma, mae'r corff wedi'i droelli i un ochr a'r dwylo'n cael eu gwrthdroi, fel os yw'r corff yn cael ei droi i'r chwith, bod y llaw dde yn gafael yn y droed chwith, mae'r penelin dde dros y pen-glin chwith, a'r llaw chwith yn gafael yn y droed dde.[11]

Mae gan Trianga Mukhaikapada Paschimottanasana un goes wedi'i phlygu fel yn Virasana.[10]

Mae gan Ardha Baddha Padma Paschimottanasana [12] un goes wedi'i chroesi dros y llall fel yn Padmasana.[13]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Yoga Journal - Seated Forward Bend". Cyrchwyd 2011-04-10.
  2. "Asanas - Forward Bending Poses". About Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-16. Cyrchwyd 2011-06-25.
  3. Lark, Liz (15 Mawrth 2008). 1,001 Pearls of Yoga Wisdom: Take Your Practice Beyond the Mat. Chronicle Books. t. 265. ISBN 978-0-8118-6358-2. Cyrchwyd 25 Mehefin 2011.
  4. "Paschimottanasana". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-13. Cyrchwyd 2011-04-10.
  5. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  6. Iyengar 1991, tt. 166-170.
  7. Mehta 1990.
  8. Kapadia, Praveen (2002). Yoga Simplified (arg. 1st). Hyderabad, India: Gandhi Gyan Mandir Yoga Kendra. tt. 124–125.
  9. "Urdhva-Mukha Paschimottanasana". Ashtanga Yoga. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.
  10. 10.0 10.1 Iyengar 1991.
  11. Iyengar 1991, tt. 170-173.
  12. "Ardha Baddha Padma Paschimottanasana". Yoga Vastu. October 2020.
  13. Iyengar 1991, tt. 153-156.

Llyfryddiaeth

golygu

Dolenni allanol

golygu