Naz Ball

pêl-droediwr Cymreig

Mae Naldra "Naz" Ball yn gyn ergydiwr Pêl-droed Cymreig. Bu'n cynrychioli Cymru fel chwaraewr rhyngwladol ac yn chware i dimau Arsenal a Wembley yn Uwch-gynghrair Lloegr. Fe'i ganwyd ym 1961 ym Mhwllheli.[1]

Naz Ball
Ganwyd1962 Edit this on Wikidata
Pwllheli Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auArsenal W.F.C., London Bees, Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Gyrfa clwb golygu

Ym 1991-92, tymor cyntaf strwythur cynghrair genedlaethol Lloegr ar gyfer pêl-droed i ferched sgoriodd Ball 23 gôl i gynorthwyo Arsenal i gael dyrchafiad i'r Gynghrair Genedlaethol. Bu hefyd yn gyfrifol am sgorio'r gôl rhoddodd buddugoliaeth 1-0 i Arsenal dros Millwall Lionesses yn ffeinal cyntaf Cwpan yr Uwch-gynghrair ym 1992[2].

Yn y tymor canlynol enillodd Arsenal trebl domestig. Sgoriodd Ball ym mhob rownd o Gwpan Cynghrair Pêl-droed y Merched a'i pheniad wrth i Arsenal curo Doncaster Belles 3-0 oedd ei 38ain gôl mewn ymgyrch cynhyrchiol[3].

Ym mis Ebrill 1995 daeth Ball ymlaen am y ddwy funud olaf ym muddugoliaeth 3-2 Arsenal dros Ferched Lerpwl yng Nghwpan y merched. Ym 1995 a 1996 bu Ball yn chware i dîm Merched Wembley gan ennill gôl gosb munud olaf bu'n gyfrifol am fuddugoliaeth ei thîm dros y Doncasrer Bells yn ffeinal cwpan yr Uwch-gynghrair ar 10 Mawrth 1996[4].

Bu Ball yn rhan o dîm Wembley wrth iddynt golli 1-0 i Millwall Lionesses yn ffeinal Cwpan y Merched.

Yn ogystal â chware pêl-droed roedd gan Ball gyrfa llawn amser fel stiwardes yn y Llu Awyr Brenhinol.

Gyrfa Ryngwladol golygu

Cafodd Ball ei chapio ar y lefel rhyngwladol gan Gymru[5]. Yng ngemau cymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth merched UEFA sgoriodd Ball ddwywaith yn ei phum ymddangosiad dros ei gwlad.

Cyfeiriadau golygu

  1. Mynegai genedigaethau y Cofrestrydd Cyffredinol; Cyfrol 8A; Tudalen 181; Pwllheli, Sir Gaernarfon, Chwarter 1 (Ionawr, Chwefror, Mawrth) 1961. Enw: Naldra PM Ball. Cyfenw y fam :Williams
  2. "Sport in Short: Football". The Independent. 1992-05-25. |access-date= requires |url= (help)
  3. Henry Winter (1993-04-26). "Football: FA forging links to create a permanent partnership: Henry Winter reports on the interest created by the women's FA Cup final in which Arsenal defeated Doncaster Belles 3–0". The Independent. Cyrchwyd 2018-04-06.
  4. "Belles are beaten". The Times. 1996-03-11. |access-date= requires |url= (help)
  5. Barnet FC Ladies – A History Archifwyd 2012-03-07 yn y Peiriant Wayback. Barnet FC