Ncuti Gatwa

actwr Albanaidd, a anwyd yn Rwanda

Actor Rwandaidd-Albanaidd yw Mizero Ncuti Gatwa (/ˈʃti ˈɡætwɑː/ SHOO-tee GAT-wah[1]; ganwyd 15 Hydref 1992). Daeth i amlygrwydd fel Eric Effiong ar y gyfres gomedi-ddrama Sex Education ar Netflix, a enillodd iddo Wobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu a thri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau.[2][3][4][5][6] Yn 2022, cyhoeddwyd Gatwa fel ymgnawdoliad newydd o gymeriad y Doctor ar y gyfres BBC Doctor Who, sy'n golygu mai ef yw'r actor du cyntaf i arwain y gyfres.[7]

Ncuti Gatwa
GanwydMizero Ncuti Gatwa Edit this on Wikidata
15 Hydref 1992 Edit this on Wikidata
Kigali Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Conservatoire yr Alban
  • Boroughmuir High School
  • Dunfermline High School, Dunfermline Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganed Gatwa yn Nyarugenge, Kigali, Rwanda, ar 15 Hydref 1992. [8][9] Mae ei dad, Tharcisse Gatwa, o Ardal Karongi yn Rwanda, yn newyddiadurwr gyda PhD mewn diwinyddiaeth.[10][11]

Yn ddiweddarach dihangodd y teulu o Rwanda yn ystod hil-laddiad Rwanda yn 1994 gan ymgartrefu yn yr Alban.[12] Buont yn byw yng Nghaeredin a Dunfermline. Mynychodd Gatwa Ysgol Uwchradd Boroughmuir ac Ysgol Uwchradd Dunfermline cyn symud i Glasgow i astudio yn y Royal Conservatoire of Scotland, gan raddio gyda BA mewn Actio yn 2013.[13][14]

Ar ôl graddio, cafodd Gatwa ei dderbyn ar gynllun actorion graddedig y Dundee Repertory Theatre yn Dundee, yr Alban lle bu'n perfformio mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Victoria gan David Greig.[15][16] Cafodd rôl fychan yn y comedi sefyllfa Bob Servant yn 2014 oedd wedi ei leoli a'i ffilmio yn Dundee.[17]

Yn 2015, ymddangosodd mewn rôl gefnogol yn y gyfres fer Stonemouth, addasiad o nofel o'r un enw o 2012. Yr un flwyddyn, perfformiodd yng nghynhyrchiad Kneehigh Theatres o 946, a addaswyd o The Amazing Story of Adolphus Tips gan Michael Morpurgo. Roedd y stori yn adrodd hanes yr ymarferion ar gyfer glaniad D-Day yn Nyfnaint lle bu nifer o farwolaethau.[18] Chwaraeodd Gatwa ran Demetrius yng nghynhyrchiad 2016 o A Midsummer Night's Dream yn theatr Glôb Shakespeare; a gyfarwyddwyd gan Emma Rice.[19]

Ym mis Mai 2018, cafodd Gatwa ei gastio yng nghyfres ddrama gomedi Sex Education ar Netflix fel Eric Effiong.[17] Rhyddhawyd y sioe yn 2019 a chafodd ganmoliaeth gan y beirniaid.[20] Derbyniodd Gatwa ganmoliaeth am ei bortread o Eric gan gynulleidfaoedd a beirniaid fel ei gilydd, yn enwedig am y modd na chafodd ei gymeriad ei bortreadu fel ystrydeb o "gymeriad stoc o ffrind gorau du neu hoyw".[3][4] Mae wedi ennill clod eang am y rôl, sy’n cynnwys ennill Gwobr BAFTA yr Alban am yr Actor Gorau mewn Teledu yn 2020, ac ennill tri enwebiad Gwobr Teledu BAFTA am y Perfformiad Comedi Gwrywaidd Gorau, un yn 2020, 2021 a 2022 yn olynol.[2][3][4][5][6]

Ar 8 Mai 2022, cyhoeddwyd bod Gatwa wedi’i gastio yn Doctor Who fel 15eg ymgnawdoliad o brif gymeriad y sioe, y Doctor.[21] Cafodd Gatwa gafodd ei gastio ym mis Chwefror,[22] ac ef fydd yr actor du cyntaf i chwarae'r cymeriad fel prif ran. Cyn hynny portreadwyd y 'Fugitive Doctor' gan y fenyw ddu Jo Martin mewn rhai penodau o gyfres 12 yn 2020.[23] Ar ddiwedd 2023 darlledwyd tair pennod arbennig ar gyfer pen-blwydd 60 mlynedd y sioe, gyda David Tennant yn dychwelyd yn y rhan. Erbyn diwedd y drydedd bennod, cyflwynwyd Gatwa fel y Doctor newydd, gan ymrannu oddi wrth y Doctor blaenorol. Bydd yn parhau mewn pennod Nadolig cyn ymddangos mewn cyfres llawn.[24]

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2019 Horrible Histories: The Movie – Rotten Romans Timidius
2021 The Last Letter from Your Lover Nick
2023 Barbie Artist Ken

Teledu

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2014 Bob Servant Male Customer 1 pennod
2015 Stonemouth Dougie 2 pennod
2019–2023 Sex Education Eric Effiong Prif ran; 32 pennod
2023- Doctor Who Y Doctor Prif ran
2024 Masters of the Air 2il Lt. Robert Daniels 3 pennod

Gemau fideo

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2022 Grid Legends Valentin Manzi Llais a chipio symudiad

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ncuti & Kedar from Sex Education Interview Each Other". Between 2 Favs. Netflix. 25 Ionawr 2020.
  2. 2.0 2.1 "From Ncuti Gatwa to floral tributes: this week's fashion trends". The Guardian. 1 Chwefror 2019. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 Lockett, Dee (22 Ionawr 2019). "Sex Education's Ncuti Gatwa Doesn't Want to Play the Gay Best Friend". Vulture. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 Okundaye, Jason (22 Ionawr 2019). "Sex Education's vital, complex portrayal of black queer teenhood". Dazed (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  5. 5.0 5.1 Smith, Kate Louise (4 Mehefin 2020). "Ncuti Gatwa earns BAFTA nomination for Sex Education". PopBuzz.
  6. 6.0 6.1 "BAFTA TV 2021: Nominations for the Virgin Media British Academy Television Awards and British Academy Television Craft Awards". BAFTA. 28 Ebrill 2021. Cyrchwyd 28 Ebrill 2021.
  7. "Ncuti Gatwa is the Doctor". Doctor Who (BBC). Cyrchwyd 8 Mai 2022.
  8. Anderson, Gillian (5 Chwefror 2020). "Ncuti Gatwa Embraces His Electrifying Power". Teen Vogue. Cyrchwyd 10 Chwefror 2020.
  9. Negi, Shrishti (6 Chwefror 2019). "Ncuti Gatwa of 'Sex Education' on His Unapologetic & Carefree Portrayal of a Gay, Black Teenager". News18. Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.
  10. Gatwa, Tharcisse (25 Mawrth 2009). "Victims or Guilty?". International Review of Mission (World Council of Churches) 88 (351): 347–363. doi:10.1111/j.1758-6631.1999.tb00164.x.
  11. "Ncuti Gatwa, Umunyarwanda wihagazeho muri filime 'Sex Education' yaciye ibintu kuri Netflix" (yn Nyanja). Isimbi.rw. 4 Chwefror 2019. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  12. "BBC Scotland - BBC Scotland - Black and Scottish — 'I thought I was the only black person in the world'".
  13. "Ncuti Gatwa". Dundee Rep Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2020. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
  14. "BA Acting Showcase Class of 2013" (PDF). Royal Conservatoire of Scotland. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Ionawr 2019. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
  15. "Theatre review: Victoria, Dundee Rep". The Scotsman (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-08.
  16. Volpe, Allie (4 Mehefin 2020). "Ncuti Gatwa Nearly Quit Acting—Then He Booked 'Sex Education'". Backstage.
  17. 17.0 17.1 "BBC One - Bob Servant, Series 2, The Van" (yn Saesneg). BBC. Cyrchwyd 2021-06-06.
  18. "946 review – Kneehigh's D-day drama brings cats and razzmatazz". The Guardian (yn Saesneg). 2015-08-05. Cyrchwyd 2021-01-13.
  19. "A Midsummer Night's Dream (2016)". player.shakespearesglobe.com. Cyrchwyd 2022-03-03.
  20. "Sex Education: Season 1". Rotten Tomatoes. Fandango. Cyrchwyd 15 Ionawr 2019.
  21. Belam, Martin (8 Mai 2022). "Doctor Who: Ncuti Gatwa to replace Jodie Whittaker, BBC announces". The Guardian. Cyrchwyd 8 Mai 2022.
  22. Flook, Ray (8 Mai 2022). "Doctor Who: New Doctor Ncuti Gatwa Knew in February: "Been Emotional"". Bleeding Cool. Cyrchwyd 8 May 2022.
  23. Fullerton, Huw; Knight, Lewis (8 Mai 2022). "Ncuti Gatwa announced as the next Doctor in Doctor Who". Radio Times. Cyrchwyd 9 Mai 2022.
  24. Belam, Martin (2023-12-09). "Doctor Who: The Giggle - 60th anniversary special recap". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-12-09.

Dolenni allanol

golygu