Mae Neil Roger Jenkins (ganed 8 Gorffennaf 1971) yn gyn-chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi sgorio mwy o bwyntiau dros Gymru nag unrhyw chwaraewr arall.

Neil Jenkins
Ganwyd8 Gorffennaf 1971 Edit this on Wikidata
Rhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gyfun Bryn Celynnog Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau86 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Clwb Rygbi Pontypridd, Clwb Rygbi Pontypridd, Rhyfelwyr Celtaidd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed Edit this on Wikidata
Saflemaswr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed Neil Jenkins yng Ngartholwg, a chwaraeodd rygbi i glybiau Pontypridd a Chaerdydd.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 1991 pan oedd yn 19 oed. Gallai chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr. Aeth ymlaen i ennill 87 o gapiau dros Gymru a sgorio 1049 o bwyntiau, oedd yn record y byd am bwyntiau rhyngwladol nes i Jonny Wilkinson o Loegr ei thorri yn 2008. Aeth heibio'r record flaenorol o 911 a ddelid gan Michael Lynagh o Awstralia yn ystod Cwpan y Byd yn 1999 a chyrhaeddodd y nôd o fil o bwyntiau yn erbyn Lloegr yn 2001.

Roedd Jenkins yn giciwr heb ei ail; yn y tymor 2003–4, llwyddodd i sgorio gyda phob un o 44 cic yn olynol i'r Rhyfelwyr Celtaidd, hynny hefyd yn record y byd ar hyn o bryd (2005).

Aeth ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig yn 1997 a chwaraeodd fel cefnwr ymhob un o'r tair gêm brawf. Enillodd y Llewod y gyfres o ddwy gêm i un, a chicio Jenkins fu'n gyfrifol am hynny i rannau helaeth. Aeth ar daith eto gyda'r Llewod i Seland Newydd yn 2001, ond oherwydd anafiadau ni chafod daith mor llwyddiannus y tro yma.

Ni chafodd le yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Yn Hydref 2005 penodwyd ef a Robin McBryde yn hyfforddwyr sgiliau i helpu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol yn y bedair academi ranbarthol.