Nerys Howell
Busneswraig, cyflwynydd teledu ac awdur yw Nerys Howell (ganwyd Awst 1956).
Nerys Howell | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1956 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | diategydd, cogydd, llenor, cyflwynydd teledu |
Bu Nerys Howell yn gweithio ym myd bwyd a diod ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac ers 2005 mae'n rhedeg cwmni ei hun yn arbenigo mewn darparu cyngor a chymorth i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru. Dechreuodd ei diddordeb mewn bwyd pan yn ferch fach wrth dreulio wythnosau gwyliau'r ysgol ar ffermydd ei Mamgu a Thadcu yn Llangeler a Chapel Iwan. Yno gwelodd yr hadau yn tyfu yn gnydau, casglu wyau o'r cwt ieir, tynnu riwbob o'r berllan, codi tatws, bwydo'r lloi, godro, plufio, crafu tatws a helpu i goginio. Bu dylanwadau coginio ei Mam a'i dwy Famgu yn allweddol wrth iddi benderfynu ar yrfa.
Wedi astudio cwrs Rheoli Arlwyo, aeth i weithio gyda'r Awdurdod Iechyd; yna ymunodd ag Ysgol Fwyd a Diod Prue Leith yn Notting Hill. Bu'n gweithio yng Ngroeg i deulu un o wleidyddion enwog San Steffan, ac yna dychwelyd i Lundain i weithio mewn tai bwyta. Dychwelodd i Gymru yn 1996 a chychwynnodd gyflwyno eitemau bwyd a diod yn rheolaidd ar gyfer S4C, BBC Cymru a HTV. Bu hefyd yn gweithio i nifer o gyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat ers 1999. Mae wedi teithio'r byd yn hyrwyddo bwyd a diod Cymru'r Gwir Flas yn Sydney, Paris, Hong Kong, San Fransisco, Dubai ac Efrog Newydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Sefydlwyd Ymgynghoriaeth Bwyd Howell yn 2005.
Cyhoeddodd y gyfrol Cymru ar Blât/Wales on a Plate efo Gwasg Carreg Gwalch yn 2011.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 9781845272340, Cymru ar Blât/Wales on a Plate". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-02-10.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Nerys Howell ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |