Nestor Makhno
Chwyldroadwr anarchaidd o Wcráin oedd Nestor Ivanovych Makhno (Hydref 1888 – 25 Gorffennaf 1934) a fu'n gadlywydd ar fyddin o werinwyr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Wcráin (1917–21).
Nestor Makhno | |
---|---|
Nestor Makhno mewn gwersyll i bobl wedi'u dadleoli yn Rwmania ym 1921, yn sgil methiant ei wrthryfel | |
Ffugenw | батька Махно |
Ganwyd | 7 Tachwedd 1888 Huliaipole |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1934 Paris |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Pobl Wcráin, Ymerodraeth Rwsia |
Galwedigaeth | chwyldroadwr, llenor, arlunydd, person milwrol, anarchydd, ffermwr, gwleidydd |
Swydd | ataman, llywydd corfforaeth |
Adnabyddus am | Memories, The ABC of Revolutionary Anarchism |
Prif ddylanwad | Peter Arshinov |
Priod | Halyna Kuzmenko |
Plant | Olena Makhno |
Bywyd cynnar (1888–1917)
golyguGaned Nestor Ivanovych Makhno yn Huliai-Pole, Talaith Katerynoslav, Ymerodraeth Rwsia, a leolir bellach yn oblast Zaporizhia yn ne Wcráin. Mynychodd yr ysgol gynradd leol.[1]
Yn 1906 ymunodd Makhno â'r mudiad anarchaidd lleol, Undeb yr Agrariaid Tlodion. Cafodd ei arestio ar gyhuddiadau o fradlofruddiaeth a difeddianiad, a'i ddedfrydu i farwolaeth gan lys milwrol Odessa ym Mawrth 1910. Oherwydd ei ieuenctid, newidiwyd ei ddedfryd i garchar am oes. Treuliodd y cyfnod 1911–17 dan glo yng Ngharchar Butyrka ym Moscfa, ac yno dylanwadwyd arno yn gryf gan y deallusyn anarchaidd Petr Arshinov.[1]
Chwyldroadau Wcráin (1917–21)
golyguYn sgil Chwyldro Chwefror 1917 yn Rwsia, rhyddhawyd Makhno o'r carchar a dychwelodd i Katerynoslav. Yno fe drefnodd Undeb y Gwerinwyr ac undebau llafur y gweithwyr metel a'r seiri coed. Arweiniodd herwyr anarchaidd wrth ddwyn cyrchoedd ar ystadau preifat, eu meddiannu, ac ailddosbarthu'r tir, ac yn 1918 bu ar flaen y gad mewn gwrthryfeloedd y werin yn erbyn Pavlo Skoropadsky, pennaeth yr Hetmanat a sefydlwyd gan luoedd Ymerodraeth yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhagorodd ar ryfela herwfilwrol, a marchogluoedd ysgeifn gyda chymorth ceir gynnau peiriant (tachanky) oedd ei luoedd mwyaf effeithlon. Enillodd Makhno y llysenw bat'ko ("tad") oddi ar ei ddilynwyr, a gelwid ei luoedd yn Makhnovshchyna neu'r Fyddin Ddu.[1]
Anelodd Makhno at ymgynghreirio â'r lluoedd ar naill ochr yn y rhyfel annibyniaeth – Gweriniaeth Pobl Wcráin (dan lywodraeth y Gyfarwyddiaeth) a Gweriniaeth Sofietaidd Rwsia (dan lywodraeth y Bolsieficiaid) – am resymau tactegol, er mwyn cael arfau a chyflenwadau oddi arnynt ac i reoli'r cydbwysedd grym yn ne Wcráin. Yng ngwanwyn 1918 derbyniodd arfau oddi ar y Bolsieficiaid, ac yn yr haf cyfarfu Makhno â'u harweinydd Vladimir Lenin. Yn sgil cwymp yr Hetmanat yn Rhagfyr 1918, cytunodd Makhno i ymgynghreirio â'r Gyfarwyddiaeth, ond torrodd ei air wedi iddo sicrhau cyflenwadau milwrol. Cynorthwyodd luoedd y Bolsieficiaid wrth gipio Katerynoslav, ond methodd Makhno amddiffyn y ddinas rhag gwrthymosodiad y Gyfarwyddiaeth, a bu'n rhaid iddo ffoi ar 31 Rhagfyr. Yn Ionawr 1919, ymgorfforwyd ei luoedd yn rhan o'r Fyddin Goch, dan enw 3edd Frigâd Traws-Dnepr, a brwydrasant yn erbyn y Gyfarwyddiaeth a'r Fyddin Wen. Erbyn diwedd Ionawr, bu Makhno yn gadlywydd ar ryw 20,000 o filwyr, ac yn ddiweddarach ymunodd Nabat, conffederasiwn o grwpiau anarchaidd, â gwrthryfel Makhno.[1]
Ym Mai 1919 llwyddodd y Fyddin Wen dorri ffrynt y Fyddin Goch a'r Fyddin Ddu, a rhoddai'r bai ar Makhno gan Leon Trotsky, comisâr rhyfel y Bolsieficiaid, a chyhoeddwyd ymgyrch filwrol yn ei erbyn. Cynyddodd Makhno ei luoedd drwy lofruddio'i brif gystadleuydd, Nykyfor Hryhoriiv, a derbyn gwrthryfelwyr Hryhoriiv yn ogystal â gwrthgilwyr o'r Fyddin Goch. Ym Medi 1919 bu cynghrair dros dro arall rhwng Makhno a'r Gyfarwyddiaeth, a fe lwyddodd dderbyn ffrwydron rhyfel ac i ddanfon ei glwyfedigion i'r gorllewin. Yn y cyfnod hwn bu'r Fyddin Ddu ar ei hanterth, a chanddi ryw 80,000 o ryfelwyr ac yn meddu ar ran fawr o dde Wcráin.[1]
Yn sgil trechu'r Fyddin Wen yn Wcráin yn niwedd 1919, trodd Trotsky ei sylw unwaith eto at orchfygu gwrthryfel Makhno. Trwy gydol gwanwyn ac haf 1920, brwydrodd y Fyddin Ddu yn erbyn y Bolsieficiaid, drwy ostegu sofietau lleol a dienyddio comiwnyddion. Wrth i'r Fyddin Wen unwaith eto ennill tir yn ne Wcráin, a hynny dan y Cadfridog Petr Wrangel, bu'n rhaid i Makhno ymgynghreirio â'r Bolsieficiaid yn Hydref 1920. Wedi iddynt drechu lluoedd Wrangel, amgylchynodd y Fyddin Goch Huliai-Pole ar 26 Tachwedd. Ffoes Makhno o'i ddinas enedigol, a bu'n dwyn cyrchoedd ar y Fyddin Goch ar hyd arfordir Azov, Afon Don, ac yn rhanbarth y Volga. Parhaodd yr ymosodiadau nes iddo flino'i wrthryfelwyr yn llwyr, a chafodd Makhno ei hun ei anafu'n ddifrifol. Ar 28 Awst 1921, dim ond 83 o ddynion oedd yn weddill wrth i Makhno groesi'r ffin i Rwmania.[1]
Alltudiaeth (1921–34)
golyguYmsefydlodd Makhno ym Mwcarést, ac yn ddiweddarach yn Warsaw. Fe'i arestiwyd yn Hydref 1922 gan yr awdurdodau yng Ngwlad Pwyl ar gyhuddiad o gynllwynio gyda diplomyddion Sofietaidd i ysgogi gwrthryfel yn erbyn y Pwyliaid yng ngorllewin Wcráin, mewn ymgais i aduno'r rhanbarth honno â Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin. Yn ei achos llys, gwrthododd y cyhuddiad, gan ddadlau iddo achub annibyniaeth Gwlad Pwyl yn 1920 drwy wrthod ymuno â'r ymgyrch Sofietaidd a thrwy rhwystro marchfilwyr Semen Budenny. Cafwyd yn ddieuog ar 27 Tachwedd 1922, a bu'r heddlu yn cadw golwg arno am flwyddyn gyfan.[1]
Yn Ebrill 1925, symudodd Makhno i ardal Vincennes ym Mharis, Ffrainc. Yno fe dderbyniodd incwm gan anarchwyr Ewropeaidd ac Americanaidd, a chyhoeddodd erthyglau yn y cylchgronau Anarkhicheskii a Delo truda. Cyhoeddwyd ei hunangofiant anorffenedig mewn tair chyfrol, yn yr iaith Rwseg. Bu farw ar 25 Gorffennaf 1934 ym Mharis yn 45 oed. Cleddir ei lwch ym Mur y Comiwnwyr ym Mynwent Père Lachaise.[1]