Nicholas Culpeper
Botanegwr, meddyg llysiau, a sêr-ddewin o Sais oedd Nicholas Culpeper (18 Hydref 1616 – 10 Ionawr 1654) sy'n nodedig am ei lysieulyfrau.
Nicholas Culpeper | |
---|---|
Ysgythriad o Nicholas Culpeper gan Richard Gaywood o ganol yr 17g. | |
Ganwyd | 18 Hydref 1616 Surrey |
Bu farw | 10 Ionawr 1654 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, botanegydd, astroleg, fferyllydd |
llofnod | |
Ganed ef yn Surrey, ym mhentref Ockley mae'n debyg, a chafodd ei fagu yn Isfield, Sussex. Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1632, ond wedi marwolaeth ei gariad ym 1634 gadawodd heb ennill ei radd. Aeth yn brentis i apothecari yn Llundain, ac ym 1639 dechreuodd weithio mewn siop gyffuriau Samuel Leadbetter. Yn Rhagfyr 1642, rhoddwyd Culpeper ar brawf, wedi ei gyhuddo o ddewiniaeth, a fe'i cafwyd yn ddieuog. Gweriniaethwr pybyr oedd Culpeper, ac ym 1643, yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, brwydrodd dros achos y Seneddwyr, a chafodd ei anafu yn ei frest gan belen fwsged.[1]
Sefydlodd Culpeper bractis ei hun yn ei gartref yn Spitalfields ym 1644. Ceisiodd dorri monopoli Coleg y Meddygon ar feddygaeth drwy gyfieithu'r cyffurlyfr swyddogol, y Pharmacopoeia, o Ladin i Saesneg, ac ychwanegu gwybodaeth a chyfarwyddiadau ei hun, dan y teitl A Physicall Directory; or, A Translation of the London Dispensatory (1649). Cyhoeddodd sawl argraffiad arall, a chyfieithiad o gyffurlyfr newydd Coleg y Meddygon ym 1653.
Ymhlith gweithiau meddygol eraill Culpeper, gan gynnwys traethodau sydd yn tynnu ar ei syniadau astrolegol, mae A Directory for Midwives (1651), Semiotica uranica (1651), ac Ephemeris (1651, 1653). Cyflawnodd sawl cyfieithiad arall o'r Lladin, gan gynnwys Treatise of the Rickets (1651), Galen's Art of Physick (1652), a The Anatomy of the Body of Man (1653). Ei gampwaith yw The English physitian' (1652), rhestr o lysiau rhinweddol brodorol gyda mynegai o afiechydon. Cyhoeddodd Culpeper hefyd ei broffwydoliaethau astrolegol yn y gyfrol Catastrophe magnatum (1652). Bu farw Nicholas Culpeper o dwbercwlosis yn 37 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Patrick Curry, "Culpeper, Nicholas (1616–1654)", Oxford Dictionary of National Biography (2004).