Nifwl heulol
Yn ôl y ddamcaniaeth nifylaidd o ddechreuad Cysawd yr Haul, cwmwl o nwy a llwch oedd y nifwl heulol a ffurfiodd yr Haul a'r planedau sy'n ei gylchdroi drwy broses cyddwyso. Mae'r mwyafrif o seryddwyr a ffisegwyr yn tybio i Gysawd yr Haul darddu o gwmwl o hydrogen a llwch rhyngserol yn bennaf a gywasgodd dan ddisgyrchiant ei hun, gan ffurfio corff hynod o boeth a dwys yn ei ganol. Y craidd hwnnw a dyfodd yn seren a elwir yr Haul, a'r ddisgen droellog o nwy a llwch o'i amgylch a ffurfiai'r planedau.
Enghraifft o'r canlynol | cwmwl molecwlaidd |
---|
Yr athronydd Emanuel Swedenborg oedd y cyntaf i dybio i'r planedau ffurfio o ddarnau cramen nifylaidd a oedd ar un pryd o amgylch yr Haul. Ymhelaethodd Immanuel Kant ar y syniad honno yn 1755.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Solar nebula. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Tachwedd 2018.