Nigel Birch

gwleidydd Ceidwadol

Roedd Evelyn Nigel Chetwode Birch, Barwn Rhyl (18 Tachwedd 19068 Mawrth 1981), yn economegydd ac yn wleidydd Ceidwadol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir y Fflint o 1945 i 1950 a Gorllewin Sir y Fflint o 1950 i 1970.[1]

Nigel Birch
Ganwyd18 Tachwedd 1906 Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1981 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadNoel Birch Edit this on Wikidata
MamFlorence Hyacinthe Chetwode Edit this on Wikidata
PriodEsmé Glyn Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Birch yn Llundain yn fab i'r Cadfridog Syr James Frederick Noel Birch, milwr, a Florence Hyacinthe (née Chwetwode) ei wraig.

Derbyniodd ei addysgu yng Ngholeg Eton.

Ym 1950 priododd Esmé Consuelo Helen Glyn, merch Frederic Glyn 4ydd Barwn Wolverton; ni chawsant blant.[2]

Cyn yr Ail Ryfel Byd fu Birch yn gweithio fel brocer stoc yn arbenigo ym marchnad stociau'r llywodraeth. Bu'n bartner yng nghwmni brocer Cohen Laming Hore.[3]

Cyn y Rhyfel bu'n aelod o'r fyddin diriogaethol ac ar doriad y rhyfel ymunodd a'r staff cyffredinol gan weithio ym Mhrydain ac yn ardal Môr y Canoldir gan gyrraedd rheng is-gyrnol ym 1944.

Cafodd ei anrhydeddu efo'r OBE ym 1945

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Yn etholiad cyffredinol 1945 safodd fel ymgeisydd Ceidwadol Sir y Fflint gan gadw'r sedd i'r Blaid Geidwadol hyd ddiddymu'r etholaeth ar gyfer etholiad cyffredinol 1950; ym 1950 safodd yn etholaeth newydd Gorllewin Sir y Fflint hyd ymneilltuo o Dŷ'r Cyffredin ym 1970. Wedi ymadael a Thŷ'r Cyffredin fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Rhyl.

Yn y Senedd bu Birch yn siarad o blaid polisïau ariannol llym, dros reoli chwyddiant ariannol ac yn erbyn polisïau economaidd Keynesaidd oedd yn cael eu cefnogi gan y mwyafrif o wleidyddion y cyfnod. Bu'n un o'r Ceidwadwyr cyntaf i arddel arianyddiaeth a ddaeth i'r bri o dan lywodraeth Margaret Thatcher, degawd ar ôl i Birch ymadael a'r Cyffredin.

Ym 1951 pan ffurfiodd Churchill Llywodraeth Ceidwadol penodwyd Birch yn is-ysgrifennydd gwladol yn y Weinyddiaeth Awyr ac ym 1952 yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ym 1954 fe'i gwnaed yn Weinidog y Gweithfeydd (yn gyfrifol am adeiladau a pharciau cyhoeddus y Llywodraeth). Ym 1955 gwasanaethodd yn Llywodraeth Eden fel Ysgrifennydd Gwladol yr Awyr, ac ym 1957 fe'i apwyntiwyd yn Ysgrifennydd Economaidd i'r Trysorlys yn Llywodraeth MacMillan, gyda Peter Thorneycroft yn Ganghellor ac Enoch Powell yn Ysgrifennydd y Trysorlys. Cafodd ei godi i'r Cyfrin Gyngor ar ei apwyntiad. Roedd y tri gweinidog yn y Trysorlys yn coleddu arianyddiaeth a'r angen i gwtogi gwariant cyhoeddus, ond doedd dim cefnogaeth i'w polisïau o lymder ariannol gan y Prif Weinidog na gweddill y Cabinet gan hynny bu i'r tri ymddiswyddo ar 6 Ionawr 1958.[4] Cafodd Birch dial ar MacMillan ym 1963, trwy wneud araith bwerus yn mynnu ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn sgil helynt Profumo.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yn Hampshire yn 75 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur BIRCH, EVELYN NIGEL CHETWODE [1] adalwyd 12 Ionawr 2016
  2. J. Enoch Powell, ‘Birch, (Evelyn) Nigel Chetwode, Baron Rhyl (1906–1981)’, rev. Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 12 Jan 2016
  3. ‘RHYL’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 11 Ionawr 2016
  4. Birch, Nigel. "The Rebels' Case." Daily Mail [London, England] 8 Jan. 1958: 4. Daily Mail Historical Archive, 1896-2004. Web. 11 Jan 2016.[2]
  5. "Lord Rhyl", The Times, 10 Mawrth 1981: 16. The Times Digital Archive. Web. 11 Ionawr 2016.[3]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Gwilym Rowlands
Aelod Seneddol Sir y Fflint
19451950
Olynydd:
ddiddymu'r etholaeth
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Gorllewin Sir y Fflint
19501970
Olynydd:
Anthony Meyer