Niki Pilkington

darlunydd a chyfarwyddwr creadigol Cymreig

Darlunydd a chyfarwyddwr creadigol Cymreig yw Niki Pilkington.[1] sy'n wreiddiol o Nefyn, Pen Llŷn[2] ac yn byw byw yn Los Angeles, UDA. Cyn hynny bu'n byw ym Mharis, ac yn ddiweddarach yn Efrog Newydd.[1]

Niki Pilkington
GanwydNefyn Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Dywed ei bod wastad wedi ysu am fod yn ddarlunydd ers yn blentyn, ac oherwydd ei ewythr, sy'n ddarlunydd llwyddiannus, yn byw yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, roedd gan Pilkington ffydd, ei fod yn bosibl dilyn gyrfa yn gwneud beth oedd yn caru'i wneud. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn Hyrwyddo a Darlunio Ffasiwn o Brifysgol Ravensbourne, Llundain.[3]

Arddull adnabyddus iawn sydd gan Pilkington, darluniau du a gwyn yn bennaf, yn defnyddio pensiliau, gyda ychwanegiad o flociau o liwiau neon a phatrymau.[4] Mae yn aml yn ymgorffori dyfyniadau, yn Saesneg fel arfer ond hefyd yn y Gymraeg.[3][4] Caiff ei hysbrydoli yn bennaf gan ffasiwn, cerddoriaeth a byd natur,[1] ac mae elfen chwareus iawn i'w gwaith.[3] Mae wedi cynhyrchu gwaith ar ran brandiau byd enwog gan gynnwys Topshop, American Express ac Elle Magazine.[4] Daeth i'r blaen fel darlunydd ffasiwn, ond mae erbyn hyn yn dylunio ystod eang o gynnyrch gan gynnwys clawr llyfr, Madi gan Dewi Wyn Williams, gwasg Atebol.[5] Mae'n gyfarwyddwr creadigol y busnes Cymreig, Tanya Whitebits, sy'n cynhyrchu lliw haul ffug.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Los Angeles Through Fresh Eyes with Niki Pilkington, exceptionalalien.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-11. Cyrchwyd 2019-10-11.
  2. Trio of Welsh artists on show at Oriel Plas Glyn y Weddw, Laura Chamberlain, Wales Arts, 18 Ionawr 2011
  3. 3.0 3.1 3.2 Interview with Fashion Illustrator Niki Pilkington Archifwyd 2019-10-11 yn y Peiriant Wayback., Tihara Smith, Tizz Tazz, 16 Medi 2014
  4. 4.0 4.1 4.2 Interview with Fashion Illustrator Niki Pilkington, Mared Gryffudd 6 Chwefror 2017
  5. Lansiad Madi | Atebol, YouTube, 18 Gorffennaf 2018
  6. Niki Pilkington & Tanya Whitebits, Shoned Owen, 14 Ionawr 2019

Dolenni allanol golygu



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.