Noel Mooney

Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Apwyntiwyd Noel Mooney yn Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Awst 2021. Cyn ei swydd yng Nghymru, roedd y cyn gôl-geidwad yn Rheolwr Cyffredinol dro-dro ar Cymdeithas Bêl-droed Gweriniaeth Iwerddon (FAI) a chyn hynny yn Pennaeth Datblygu Busnes Cymdeithasau Cenedlaethol yn Bennaeth Datblygu Strategol gyda chorff llywodraethol pêl-droed Ewrop, UEFA.

Noel Mooney
Ganwyd12 Rhagfyr 1976 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethprif weithredwr, pêl-droediwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cefndir golygu

Gôl-geidwad golygu

Mae Mooney yn hannu o bentref Cappamore yn Swydd Limerick ac yn 47 oed (yn Rhagfyr 2023). Roedd yn gôl-geidwad i St Michaels FC yn Swydd Tipperary cyn symud Limerick F.C., Cork City F.C., a Shamrock Rovers F.C. cyn i anaf i'w ben-glin ei orfodi i beidio chwarae yn 2006.

Gyrfa Marchnata - Iwerddon ac UEFA golygu

 
Logo Uefa yn 2013

Daeth yn Gyfarwyddwr Masnachol Limerick FC ac mae hefyd wedi dal sawl rôl gyda'r FAI - yn fwyaf diweddar fel pennaeth marchnata a hyrwyddiadau Cynghrair. Mae ei swydd gyda'r FAI wedi ei weld yn gweithio gydag UEFA dros y tair blynedd diwethaf. Graddiodd yn ddiweddar yn marchnata DIT (Athrofa Technoleg Dulyn).

Y prosiect mawr cyntaf i Noel oedd Euro 2012 yng Ngwlad Pwyl ac Wcráin. Dyma fydd yr achlysur olaf y bydd cymdeithasau unigol yn negodi hawliau teledu a hysbysebu ar gyfer y pencampwriaethau mawr hyn a bydd Ffrainc 2016 yn gweld Noel Mooney ac UEFA yn canoli'r broses honno. Dywedodd, “Hyd yn hyn, roedd yna elfen o lwc y gêm gyfartal. Pe baech chi'n llunio'r Almaen, sydd â'r farchnad fwyaf, fe allech chi ddisgwyl gwneud yn dda ond roedd y refeniw yn gyfnewidiol iawn i gymdeithasau. Rydyn ni’n gobeithio, trwy ganoli hawliau teledu a hysbysebu, y gallwn ni gadw’r cyllid yn fwy sefydlog yn yr aelod-wledydd.”[1] Teitl ei swydd yno oedd, 'Head of National Associations Business Development a Head of Strategic Development'.

Cyfnod byr gyda'r FAI golygu

Bu'n gweithio fel Rheolwr Marchnata i UEFA yn 2021 cyn cael ei benodi'n Reolwr Cyffredinol yr FAI ym mis Mai 2019 am gyfnod cychwynnol o chwe mis fel “General Manager for Football Services and Partnerships.”[2] Daeth ei apwyntiad i'r swydd Wyddelig ag e o dan y lach gydag honiadau fod ei berthynas gyda'r "disgraced former Chief executive", John Delaney. Honwyd bod perthynas Mooney gyda Delany, oedd hefyd yn gyn-chwaraewr St Michaels (er nid yr un pryd) yn golygu fod ganddo berthynas rhy agor gyda'r hen drefn yn yr FAI sef yr union bobl a ddaeth â'r corff genedlaethol i drafferthion ariannol enfawr. Yn 2019 ysgogodd secondiad chwe mis dyn Limerick i’r FAI yna’r Gweinidog Chwaraeon Shane Ross i ysgrifennu, “Mooney may have many talents but he is one of the last people on God’s Earth suitable for this job.”[3]

Prif Weithredwr CBDC golygu

Penodwyd Mooney yn Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn haf 2021. Roedd yn olynnu Jonathan Ford.

Meddai Kieran O'Connor, Llywydd CBDC, “The FAW have identified Noel as the right person to manage the FAW into a new era of success and evolution. He has a vast experience of working across all European national associations over the past decade to grow European football.”[4] NOdwyd bod gan Mooney "brofiad helaeth o weithio ar draws holl gymdeithasau cenedlaethol Ewrop dros y degawd diwethaf i dyfu pêl-droed Ewropeaidd ac rydym yn falch iawn bod Noel wedi cytuno i ganolbwyntio ei brofiad a'i set sgiliau i ddatblygu pêl-droed yng Nghymru."[5]

Mewn cyfweliad gyda rhaglen bêl-droed S4C, Sgorio"I think Welsh football Association can be one of the best football associations in Europe in the coming years." Nododd bod gan dimau domestig Cymru "ansawdd chwarae da iawn" ond nododd bod angen mynd i'r "lefel nesaf" yn nhermau adnoddau rheolaeth broffesiynol y clybiau a rhagwelai ei swydd fel un i gynorthwyo'r clybiau i wella ei proffesiynoldeb a "golwg a theimlad" y clwb er mwyn i fwy o bobl ddod i'r gemau.[6]

Gweledigaeth golygu

Mewn cyfweliad ar bodlediad y BBC, Elis James's' Feast of Football ym mis Mawrth 2022, amlinellodd Mooney peth o'i weledigaeth ar gyfer pêl-droed yng Nghymru. Ymysg y pynciau a gynigiwyd oedd newid tymor chwarae Uwch Gynghrair Cymru i fod yn un blwyddyn galendr (Mawrth - Medi) yn hytrach nag un sy'n pontio dwy flynedd fel sy'n gyfredol (Awst - Mai). Dyma'r drefn tymor chwarae Uwch Gynghrair Gweriniaeth Iwerddon. Nododd Mooney bwysigrwydd cynyddu buddsoddiad mewn "pêl-droed llawr gwlad" (grass roots football) clybiau cymunedol fel rhai Dinas Powys, Sili a'r Eglwys Newydd (Caerdydd). Roedd hefyd awgrym y gall Cymru chwarae gemau rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.[7]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.limerickleader.ie/news/home-and-garden/140181/Former-Limerick-FC-goalkeeper-Mooney-lands.html
  2. https://www.the42.ie/who-is-noel-mooney-4644374-May2019/
  3. https://www.irishtimes.com/sport/soccer/noel-mooney-named-new-football-association-of-wales-chief-1.4625003
  4. https://www.irishtimes.com/sport/soccer/noel-mooney-named-new-football-association-of-wales-chief-1.4625003
  5. https://www.faw.cymru/en/news/noel-mooney-announced-faw-chief-executive/?back=/en/news/&pos=7&category=18
  6. https://www.youtube.com/watch?v=cxK5JfCof1M
  7. "Elis James' Feast Of Football, Episode 211: Noel Mooney". BBC. 2022-03-10.


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.