Ynysoedd Ffaröe

Ynysfor a gwlad yng Ngogledd Ewrop
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ynysoedd Ffaroe)

Ynysfor yng Ngogledd Ewrop rhwng Môr Norwy a Chefnfor yr Iwerydd yw'r Ynysoedd Ffaröe[1] (Ffaröeg: Føroyar, Daneg: Færøerne). Arwynebedd y tir yw 1400 km². Y brifddinas yw Tórshavn (neu Thorhavn), ar ynys Streymoy. Mae'r ynysoedd yn gorwedd tua hanner ffordd rhwng Norwy a Gwlad yr Iâ; yr ynysoedd agosaf i'r de yw Shetland.

Føroyar
Faroe Islands by Sentinel-2.jpg
Coat of arms of the Faroe Islands.svg
Math autonomous country within the Kingdom of Denmark, Etholaeth Edit this on Wikidata
Prifddinas Tórshavn Edit this on Wikidata
Poblogaeth 52,154 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1948 Edit this on Wikidata
Anthem Tú alfagra land mítt Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Aksel V. Johannesen Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Daneg, Ffaröeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Teyrnas Ddanaidd Edit this on Wikidata
Sir Brenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ynysoedd Ffaröe Ynysoedd Ffaröe
Arwynebedd 1,399 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr Norwy Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Gwlad yr Iâ Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 61.9699°N 6.8445°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Løgting Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Margrethe II Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Aksel V. Johannesen Edit this on Wikidata
Arian Faroese króna Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 2.6 Edit this on Wikidata

Maen Ynysoedd Ffaröe yn dalaith hunanlywodraethol o Ddenmarc ers 1948 gan gymryd cyfrifoldeb am y rhan fwyaf o'u materion, ac eithrio amddiffyn a materion tramor.

DaearyddiaethGolygu

Tórshavn yw'r brifddinas, ac mae ganddi boblogaeth o 19,000; yr ail ddinas yw Klaksvik sydd â phoblogaeth o tua 6,000. Mae trwch gweddill y boblogaeth wedi'i gwasgaru ymysg y pentrefi arfordirol. Mae pobl yn byw ar 17 o'r 22 ynys. Y prif ynysoedd yw Streymoy, Eysturoy, a Vágar. Mae'r rhan fwyaf o'r ynysoedd yn fryniog ac mae'r gweithgareddau amaethyddol yn gyfyngiedig i fagu defaid a thyfu tatws. Mae pysgota a phrosesu pysgod yn ddiwydiannau o bwys.

Ardal yr ynysoedd yw 1,399 cilomedr sgwâr (540 mi.sg), ac nid oes afonydd na llynnoedd o bwys. Mae 1,117 cilomedr (694 mi) o arfordir, ac nid oes ffin tirol gydag unrhyw wlad arall. Yr unig ynys fawr sydd heb drigolion arni yw Lítla Dímun.

DemograffegGolygu

Cyrhaeddodd yr ynys boblogaeth o 50,000 am y tro cyntaf erioed yn ei hanes yng nghannol 2017.[2] Mae'r llywodraeth wedi ceisio delio gydag allfudo, yn enwedig allfudo menywod ifanc, a bydd nifer o ddynion yn canlyn gwragedd o Ynysoedd y Ffilipinau i fod i'w priodi.[3] Mae ymdrechion i geisio gymathu newydd-ddyfodiaid i iaith unigryw a diwylliant yr ynysoedd.[4]

HanesGolygu

Daeth trigolion gwreiddiol yr ynysoedd yno adeg y Llychlynwyr; mae hanes y drefedigaeth i'w chael yn y Færeyinga Saga.

 
Porkeri, Ynysoedd Faroe

DiwylliantGolygu

Mae diwylliant yr ynysoedd yn hannu o olion o'r hen ddiwylliant Lychlynnol-Scandinafaidd wedi'u cymysgu â diwylliant draddodiadol ffermio a physgota cynhaliol.

Iaith gynhenid, a bellach prif iaith swyddogol yr ynys, ydyw'r Ffaröeg, iaith Germanaidd sy'n ymdebygu rhywfaint i'r Islandeg. Dethlir diwrnod nawddsant yr Ynysoedd, Ólavsøka ('Gwylnos Sant Olaff') ar 29 Gorffennaf. Ceir cyfres o ddigwyddiadau yn arwain at y diwrnod. Ar yr 29ain fe agorir Senedd y wlad: y Logting.

Ceir Coleg trydyddol a galwedigaethol, Glasir a Prifysgol Ynysoedd y Ffaröe ar yr ynysoedd, a Ffaroeg yw iaith gweinyddu ac addysgu'r sefydliadau yma gan fwyaf.

GwleidyddiaethGolygu

Ceir trafodaeth gyson ar ddatganoli a bud bwriad cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2018 [5] ond ni ddaeth hyn i law. Serch hynny mae'r drafodaeth dros ragor o bwerau yn un byw.

Bu'r ynysoedd yn destun chwilfrydedd ac ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Albanaidd sydd eisiau annibyniaeth i'r Alban gan fod yn destun ffilm fer gan y newyddiadurwaig, Lesley Riddoch yn 2018.[6]

CyfeiriadauGolygu

Dolenni allanolGolygu