Ocsitania
Gwlad hanesyddol ac endid ieithyddol-ddiwylliannol ydy Ocsitania, sydd heddiw yn y rhan honno o Ffrainc a elwir yn Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan a'r Guardia Piemontese), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) a rhan o Fonaco. Yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania (Ocsitaneg: Occitània). Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'.
Ymgyrchwyr dros yr iaith yn Carcassonne, 2005 | |
Math | ardal hanesyddol |
---|---|
Prifddinas | Toulouse |
Poblogaeth | 16,922,045 |
Cylchfa amser | CET, CEST |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Monaco |
Arwynebedd | 198,113 km² |
Cyfesurynnau | 44.3°N 2.88°E |
Ystyriwyd hi'n endid ieithyddol-diwylliannol ers yr Oesoedd Canol, ond nid yw wedi bod yn endid statudol, gyfreithiol. Mae'r Ocsitaneg, fodd bynnag, yn iaith swyddogol yng Nghatalwnia. Yn oes y Rhufeiniaid, roedd yn wlad unedig, a gelwid hi gan y Rhufeinwyr yn Septem Provinciæ (y Seithfed Rhanbarth) ac felly hefyd yn yr Oesoedd Canol pan galwyd hi'n Aquitanica gan y Fisigothiaid cyn i'r Ffrancwyr gychwyn ei choncro yn niwedd y 13g.
Yr Ocsitaneg
golygu- Prif erthyg: Ocsitaneg
Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'. Yn yr ardal hon, yr Ocsitaneg oedd y brif iaith a siaradwyd. Mae hanner miliwn (allan o boblogaeth o 16 milwn) yn dal i'w siarad ac mae'n debyg iawn i'r Gatalaneg.[1]
Ocsitaniaid
golyguRhestr Wicidata:
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Ocsitaneg Archifwyd 2007-09-26 yn y Peiriant Wayback Mercator Cyfryngau
- Diccionari general occitan
- Occitanet
- Institut Occitan