Ocsitania

ardal sy'n endid ieithyddol-diwylliannol

Gwlad hanesyddol ac endid ieithyddol-ddiwylliannol ydy Ocsitania, sydd heddiw yn y rhan honno o Ffrainc a elwir yn Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan a'r Guardia Piemontese), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) a rhan o Fonaco. Yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania (Ocsitaneg: Occitània). Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'.

Lleoliad Ocsitania.
Ymgyrchwyr dros yr iaith yn Carcassonne; 2005.
Baner Ocsitania: fersiwn ymgyrchwyr dros annibyniaeth.

Ystyriwyd hi'n endid ieithyddol-diwylliannol ers yr Oesoedd Canol, ond nid yw wedi bod yn endid statudol, gyfreithiol. Mae'r Ocsitaneg, fodd bynnag, yn iaith swyddogol yng Nghatalwnia. Yn oes y Rhufeiniaid, roedd yn wlad unedig, a gelwid hi gan y Rhufeinwyr yn Septem Provinciæ (y Seithfed Rhanbarth) ac felly hefyd yn yr Oesoedd Canol pan galwyd hi'n Aquitanica gan y Fisigothiaid cyn i'r Ffrancwyr gychwyn ei choncro yn niwedd y 13g.

Yr OcsitanegGolygu

Prif erthyg: Ocsitaneg

Yn aml, yn yr Ocsitaneg, gelwir yr ardal yn lo país , h.y. 'y wlad', neu lo País d'Òc h.y. 'gwlad yr Oc'. Yn yr ardal hon, yr Ocsitaneg oedd y brif iaith a siaradwyd. Mae hanner miliwn (allan o boblogaeth o 16 milwn) yn dal i'w siarad ac mae'n debyg iawn i'r Gatalaneg.[1]

OcsitaniaidGolygu

Rhestr Wicidata:

Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

CyfeiriadauGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Dolenni allanolGolygu

Chwiliwch am Ocsitania
yn Wiciadur.