Cefn Meiriadog

cymuned yn Sir Ddinbych, cymru

Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych, Cymru, yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw'r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i'r de-orllewin o dref Llanelwy, a heb fod ymhell o Ogof Bontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o weddillion dynol hynaf yng Nghymru. Ceir beddrod o'r cyfnod Neolithig gerllaw.

Cefn Meiriadog
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth389 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,352.62 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.229461°N 3.473258°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000145 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ007725 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Map

Dywedir i'r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5g. Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau clwyfau. Bu'r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw.

Eglwys y Santes Fair, Cefn golygu

Tua 300 metr i'r de-ddwyrain o'r gaer 'Bryn y Cawr' ar Fryn Meiriadog saif eglwys fechan y Santes Fair, sy wedi'i chofrestru'n adeilad Gradd II.[1] Cafodd y cerrig eu cloddio o dir lle saif yr eglwys; fe'i hagorwyd a chysegrwyd yr eglwys ar 3 Medi 1864 gan yr Esgob Short, Llanelwy. Crëwyd y plwyf newydd "Cefn" ar 7 Chwefror 1865. Roedd yn cynnwys y ddwy drefgordd: Wigfair a Meiriadog (y ddwy yn Sir Ddinbych), a oedd tan hynny wedi bod ym mhlwyf Llanelwy.

Llyfryddiaeth golygu

  • Dewi Roberts, The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan CPAT; adalwyd 16 Medi 2014". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-08. Cyrchwyd 2014-09-16.