Oll synnwyr pen Kembero ygyd
LLyfr o ddiarhebion Cymraeg
(Ailgyfeiriad o Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd)
Casgliad o ddiarhebion Cymraeg a gasglwyd gan Gruffudd Hiraethog allan o hen lawysgrifau Cymraeg yw Oll synnwyr pen Kembero ygyd, a olygwyd a'i gyhoeddi gan William Salesbury yn 1547. Dyma un o'r llyfrau Cymraeg argraffedig cyntaf. Mae'n bosib mai dyma'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu.[1] Cedwir y llawysgrif gwreiddiol yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain.
Y llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu?
golyguCeir ansicrwydd am y dyddiad cyhoeddi, ac mae hyn wedi arwain rhai ysgolheigion, fel Ifor Williams, wedi ei osod fel y cyntaf gan i'r llyfr hwn ddod allan ym 1547, ond ar y cyfan tueddir i dderbyn Yn y lhyvyr hwnn fel y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei gyhoeddi.
Llyfryddiaeth
golyguCeir adargraffiad o'r testun gwreiddiol yn:
- John Gwenogvryn Evans (gol.), Oll synwyr pen Kembero ygyd (Bangor a Llundain, 1902)
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- ↑ britannica.com; adalwyd 1 Ebrill 2022.