John Gwenogfryn Evans
Paleograffydd a golygwr hen lawysgrifau Cymreig oedd John Gwenogvryn Evans (20 Mawrth 1852 – 25 Mawrth 1930).
John Gwenogfryn Evans | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mawrth 1852 Llanybydder |
Bu farw | 25 Mawrth 1930 Llanbedrog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, gweinidog yr Efengyl, paleograffydd |
Cysylltir gyda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, William Thomas |
Plant | Emrys Hunter Evans |
Cafodd ei eni yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Un o'i athrawon oedd William Thomas (Gwilym Marles). Astudiodd ddiwinyddiaeh a daeth yn weinidog i'r Undodiaid ond oherwydd afiechyd rhoddodd y gorau i'r weinidogaeth ym 1880. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hen lawysgrifau Cymreig, gan sefydlu ei wasg ei hun ym Mhwllheli er mwyn eu cyhoeddi.
Roedd yn gyfaill ac yn wrandawr ar ddarlithoedd Syr John Rhys tra'n byw yn Rhydychen, rhwng 1880 a 1900, a ganddo fo gafodd ei gariad at hen lawysgrifau.
Bu John Gwenogfryn Evans yn ymgyrchu dros gael llyfrgell ddiogel i Gymru. Roedd llyfrau gwerthfawr mewn perygl o gael eu difa gan dân, lleithder a phryfed. Roedd cysylltiad Gwenogvryn Evans â Syr John Williams yn bwysig yn hanes sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1]
Sillafiad "cywir" ei enw, sef y fersiwn a ddefnyddid ganddo fo ei hun, oedd "Gwenogvryn". Gwenogfryn oedd enw a fabwysiadwyd ganddo oherwydd dyna enw ei gartref pan yn fachgen.[2]
Ffynonellau
golygu- ↑ yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 158/9
- ↑ E.D. Jones yn Y Bywgraffiadur ar-lein
Llyfryddiaeth
golygu- The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887)
- The Black Book of Carmarthen (Pwllheli, 1907)
- The White Book Mabinogion (1907)
- The Text of the Bruts of the Red Book of Hergest (1890)
- The Book of Aneirin (Pwllheli, 1900)
- The Book of Taliesin (Pwllheli, 1910)