Omar Khayyam
Mathemategydd, seryddwr, athronydd a bardd oedd Omar Khayyām (Persieg: عمر خیام / Omar-e Khayyām) (18 Mai 1048 – 4 Rhagfyr 1131), a anwyd yn Nishapur, Persia.
Omar Khayyam | |
---|---|
Ganwyd | غیاث الدین ابو الفتح عمر بن ابراهیم خیام نیشاپوری 18 Mai 1048 Nishapur |
Bu farw | 4 Rhagfyr 1131 Nishapur |
Dinasyddiaeth | Seljuk Empire |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, seryddwr, bardd, awdur geiriau, athronydd, cerddor, astroleg, llenor, ffisegydd |
Adnabyddus am | Rubáiyát of Omar Khayyám, Solar Hijri calendar |
Arddull | Ruba'i |
Prif ddylanwad | Avicenna, Al-Biruni |
Mudiad | Persian literature, Iranian philosophy, Islamic Golden Age |
Mae Omar Khayyām yn fwyaf abnabyddus yn y Gorllewin am ei gasgliad o gerddi, Rubaiyat Omar Khayyām, ond yn ei wlad enedigol fe'i cofir yn bennaf am ei waith gwyddonol ac athronyddol. Fel ei gyfoeswr agos y bardd Faruddin Attar, Sŵffi oedd Omar Khayyam ac mae olion athroniaeth gyfrinol y Sŵffiaid i'w gweld yn glir yn ei farddoniaeth.
Cyfieithiad Edward FitzGerald o'r Rubaiyat
golyguAralleiriad neu addasiad yw'r fersiwn o'r Rubaiyat a gyhoeddwyd gan Edward FitzGerald (1809-1883) yn 1859. Mae wedi rhedeg i nifer o argraffiadau ers hynny, rhai ohonyn' nhw yn llyfrau cain gyda darluniau gan arlunwyr fel Gilbert James. Roedd Rubaiyat FitzGerald yn arbennig o boblogaidd ar droad yr 20g.
Cyfieithiadau Cymraeg o'r Rubaiyat
golyguCyfieithiwyd casgliad o waith Omar Khayyām (Penillion Omar Khayyam) o'r Bersieg gwreiddiol i'r Gymraeg gan Syr John Morris-Jones ym 1928. Serch hynny mae dylanwad cyfieithiad Saesneg FitzGerald yn amlwg ynddo. Dyma bennill ohono:
- Yn wir, rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,
- Tynged yn chware â hwnnw'i chware'i hun;
- Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,
- A'n dodi 'mlwch yr Angau, un ac un.[1]
Yn 1939 cyhoeddodd Thomas Ifor Rees (1890–1977) ei drosiad ei hun o fersiwn Saesneg Edward FitzGerald o'r Rubaiyat yn Ninas Mecsico, gyda lluniau gan yr arlunydd Robert Hesketh.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Morris-jones, Caniadau.