Owain Fôn Williams
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Fôn Williams (ganwyd 17 Mawrth 1987). Mae'n chwarae i Inverness Caledonian Thistle yn Uwch Gynghrair yr Alban ac i dîm cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Owain Fôn Williams | ||
Dyddiad geni | 17 Mawrth 1987 | ||
Man geni | Pen-y-groes, Cymru | ||
Safle | Gôlgeidwad | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2003–2006 | Crewe Alexandra | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2006–2008 | Crewe Alexandra | 0 | (0) |
2008–2011 | Stockport County | 82 | (0) |
2010–2011 | → Bury (ar fenthyg) | 6 | (0) |
2011 | Rochdale | 22 | (0) |
2011–2015 | Tranmere Rovers | 145 | (0) |
2015– | Inverness | 14 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2003 | dan 17 Cymru | 1 | (0) |
2004–2006 | dan 19 Cymru | 4 | (0) |
2007–2008 | dan 21 Cymru | 11 | (0) |
2015– | Cymru | 1 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 13 Tachwedd 2015. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Gyrfa clwb
golyguCrewe Alexandra
golyguAr ôl cyfnodau gyda thimau ieuenctid Manchester United a Lerpwl, dechreuodd Williams ei yrfa gyda Crewe Alexandra gan arwyddo i academi'r clwb yn 2003[1], ond wedi methu a sicrhau ei le yn y tîm cyntaf penderfynod wrthod cynnig o gytundeb newydd yn 2008 gan symud i Stockport County.
Stockport County
golyguGwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Gynghrair Bêl-droed mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Huddersfield Town ar ddiwrnod agoriadol tymor 2008-09[2] a chreodd cystal argraff yn ei dymor cyntaf nes y cafodd ei enwebu'n Chwaraewr y Flwyddyn y clwb ar gyfer 2008-09[3].
Bury a Rochdale
golyguDisgynodd Stockport i Adran Un ar ddiwedd tymor 2009-10 ac er fod Williams â chymal yn ei gytundeb fyddai'n caniatau iddo adael y clwb yn rhad ac am ddim[4] methodd a chanfod clwb a symudodd i Bury F.C. ar fenthyg cyn arwyddo i Rochdale ym mis Ionawr 2010[5].
Tranmere Rovers
golyguAr ôl cael ei ryddhau gan Rochdale ar ddiwedd tymor 2010-11, ymunodd Williams â Tranmere Rovers[6]. Wedi pediar blynedd gyda'r clwb, cafodd Williams ei ryddhau wedi i Tranmere ddisgyn allan o'r Gynghrair Bêl-droed ar ddiwedd tymor 2014-15.
Inverness Caledonian Thistle
golyguYmunodd Williams ag Inverness Caledonian Thistle yn Uwch Gynghrair yr Alban ym mis Gorffennaf 2015[7] gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yng Nghynghrair Europa yn erbyn Astra Giurgiu o Romania[8]
Gyrfa ryngwladol
golyguMae Williams wedi cynrychioli Cymru dan 21, dan 19 a dan 17 a chafodd ei alw i garfan llawn Cymru am y tro cyntaf ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad Pwyl ar 11 Chwefror 2009 lle roedd yn un o'r eilyddion[9].
Casglodd ei gap cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 13 Tachwedd 2015 [10].
Personol
golyguMae Williams yn hoff o arlunio yn ei amser hamdden[11] gyda'i waith yn cael ei arddangos mewn arddongasfa yn Oriel Betws y Coed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Owain Fôn Williams". Manchester Evening News.
- ↑ "Huddersfield 1-1 Stockport". BBC Sport. 2008-08-09.
- ↑ "Owain's Gong". Manchester Evening News.
- ↑ "Williams free to move". Sky Sports. 2010-07-02.
- ↑ "Rochdale sign Stockport goalkeeper Owain Fon Williams". BBC Sport.
- ↑ "Tranmere Rovers sign goalkeeper Owain Fon Williams". BBC Sport. 2011-07-01.
- ↑ "Inverness CT: Goalkeeper Owain Fon Williams joins Highlanders". BBC Sport. 2015-07-16.
- ↑ "Inverness CT 0-1 Astra Giurgiu". BBC Sport. 2015-07-16. ar yr un diwrnod.
- ↑ "Wales 0-1 Poland". www.welshfootballonline.com.
- ↑ "Wales 2-3 Netherlands". www.welshfootballonline.com.
- ↑ "Y Golwr a'i gelf". BBC Cymru Fyw. 2015-08-14.