Owen Thomas (cadfridog)
Cadfridog, amaethwr ac Aelod Seneddol Cymreig oedd Syr Owen Thomas (18 Rhagfyr 1858 - 6 Mawrth 1923).[1]
Owen Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1858 Carrog |
Bu farw | 6 Mawrth 1923 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, milwr |
Swydd | Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Ganed ef yng Ngharrog, Llanbadrig, Ynys Môn. Wedi ei addysgu yn Lerpwl, bu'n oruchwyliwr ar stadau Plas Coch a'r Brynddu, yna yn aelod o Gomisiwn brenhinol ar y dirwasgiad amaethyddol. Yn 1899, roedd ar ymweliad a De Affrica pan ddechreuodd Rhyfel y Boer, a gwnaed ef yn Gyrnol. Dywedir iddo ymladd mewn dros gant o frwydrau yn y rhyfel.
Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, gwnaed ef yn Frigadydd-Gadfridog yn gyfrifol am godi a hyfforddi milwyr yng Ngogledd Cymru. Gwnaed ef yn farchog yn 1917. Collodd dri mab yn y rhyfel hwn.
Ar ddiwedd y rhyfel, rhoddodd ei enw ymlaen fel ymgeisydd Llafur dros Ynys Môn, ac enillodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1918, gan guro'r Aelod blaenorol, E. J. Ellis-Griffith. Yn 1922, safodd fel ymgeisydd annibynnol yn erbyn y Rhyddfrydwr, ac enillodd eto. Claddwyd ef yn Llanfechell.
Llyfryddiaeth
golygu- David A. Pretty, Rhyfelwr Môn: Y Brigadydd-Gadfridog Syr Owen Thomas, A.S. . , 1858-1923 (Dinbych: Gwasg Gee, 1989)
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Syr Owen Thomas, Cymdeithas Hanes Mechell Archifwyd 2012-05-15 yn y Peiriant Wayback
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Ellis Jones Ellis-Griffith |
Aelod Seneddol Ynys Môn 1918 – 1923 |
Olynydd: Syr Robert John Thomas |