Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn

(1257-1293)
(Ailgyfeiriad o Owen de la Pole)

Etifedd teyrnas Powys Wenwynwyn ac un o arglwyddi'r gororau oedd Owain ap Gruffydd ap Gwenwynwyn neu Owen de la Pole (tua 1257 - tua 1293).

Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn
Ganwyd1257 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farw1293 Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Gwenwynwyn Edit this on Wikidata
MamHawys Lestrange Edit this on Wikidata
PriodJoan Corbet Edit this on Wikidata
PlantHawys Gadarn, Gruffudd de la Pole Edit this on Wikidata

Roedd Owain yn fab i Gruffudd ap Gwenwynwyn, tywysgog Powys Wenwynwyn, a'i wraig Hawys Lestrange. Ganed ef yn Lloegr wedi i'w dad gael ei yrru o'i deyrnas gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1257. Efallai tua'r adeg yma, mabwysiadodd y teulu yn cyfenw de la Pole, o "Poole", hen enw Y Trallwng ("Welshpool" yn Saesneg yn awr).

Yn 1263, dan delerau Cytundeb Trefaldwyn, dychwelwyd y rhan fwyaf o'r tiroedd i dad Owain, ar yr amod ei fod yn gwrogi i Lywelyn. Fodd bynnag, yn 1274 roedd Owain a'i dad mewn cynllwyn i lofruddio Llywelyn, a ffoesant i Loegr eto. Dan delerau Cytundeb Aberconwy, dychwelwyd ei diroedd i Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yn 1284, wedi marwolaeth Llywelyn, ymddengys i'r teulu ildio eu hawl i dywysogaeth Powys Wenwynwyn i Edward I, brenin Lloegr, a'i derbyn yn ôl ganddo fel un o arglwyddiaethau'r gororau.

Bu farw Gruffudd tua 1286, a daeth Owain yn Arglwydd Powys. Roedd yn briod a Joan Corbet, a chwsant ferch ac, yn ôl pob tebyg, bum mab. Merch Owain oedd Hawys Gadarn (1291 - cyn 1353). Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd (m. 1309), daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton ynghyd â barwniaeth Powys, yn yr un flwyddyn. Cafodd ddau fab: John, ail arglwydd (Charlton) Powys ac Owen, a fu farw'n ddietifedd. Mae'n debygol mai yn nhŷ'r Brodyr Llwydion yn yr Amwythig y claddwyd hi.

Ar ei farwolaeth tua 1293, aeth yr arglwyddiaeth i'w fab, Gruffudd neu Griffith, ac phan fu ef farw yn ddiblant yn 1309, aeth i'w ferch Hawise.

Ceir awdl iddo gan Llywelyn Fardd II.

Llyfryddiaeth

golygu
  • George Thomas Orlando Bridgeman, "The Princes of Upper Powys", Montgomeryshire Collections Cyf. 1 tud. 201