Agor y brif ddewislen
Gweler hefyd Llywelyn Fardd I.

Roedd Llywelyn Fardd II (fl. tua 1215-1280) yn Ogynfardd a gysylltir â Phowys a Gwynedd. Fe'i gelwir yn 'Llywelyn Fardd II' gan ysgolheigion am fod o leiaf dau o Feirdd y Tywysogion yn dwyn yr enw Llywelyn Fardd (gweler hefyd Llywelyn Fardd I).[1]

Cynnwys

BywgraffiadGolygu

Mae ansicrwydd ynglŷn ag awduraeth rhai o'r cerddi a dadogir ar 'Lywelyn Fardd' yn y llawysgrifau, ond mae'r gwahaniaeth rhwng dyddiadau'r cerddi yn dangos fod pedair cerdd i'w dadogi'n weddol ddiogel ar Lywelyn Fardd II. Mae tystiolaeth y cerddi hynny yn awgrymu iddo fwynhau gyrfa hir o tua 1215 hyd tua 1280. Ni wyddys dim amdano ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'r rhain yn dangos cysylltiad cryf â de Powys (Powys Wenwynwyn).[1]

CerddiGolygu

Cedwir testunau'r pedair cerdd gan y bardd sydd ar glawr yn Llawysgrif Hendregadredd, a cheir testun un o'r cerddi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.[1]

Yn ogystal â dwy awdl i Dduw, ceir awdlau moliant i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys Wenwynwyn ac i Lywelyn Fawr, tywysog Gwynedd. Mae ei gerdd i Lywelyn yn awgrymu ei fod yn ceisio lle yn ei lys fel bardd, ond gan na chafwyd cerdd arall iddo mae'n ansicr a fu'n llwyddiannus yn ei gais neu beidio. Yn ei gerdd i Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, ymddengys fod y bardd yn dathlu'r ffaith fod ei noddwr wedi derbyn ei ran o'i etifeddiaeth ar farwolaeth ei dad, Gruffudd ap Gwenwynwyn, pan ranwyd Powys Wenwynwyn yn fân arglwyddiaethau.[1]

LlyfryddiaethGolygu

  • Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd II', yn, Gwaith Dafydd Benfras ac eraill o feirdd hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1995). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

CyfeiriadauGolygu