Cytundeb Trefaldwyn

Cytundeb hanesyddol a phwysig a arwyddwyd pan gyfarfu'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a Harri III o Loegr ar 29 Medi 1267 yw Cytundeb Trefaldwyn, pan gydnabu'r brenin Seisnig safle Llywelyn fel Tywysog Cymru gyda'r hawl i wrogaeth pob tywysog ac arglwydd yn y Gymru annibynnol. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgenad y Pab.[1] Arwyddwyd y cytundeb "wrth y rhyd" sef 'Rhyd Chwima', ar Afon Hafren ger Aberriw, tua 2.5 milltir i'r gogledd-orllewin o Drefaldwyn, Powys. O'r dydd hwn ymlaen, byddai'r uchelwyr hyn yn gwneud gwrogaeth iddo, a Llywelyn yn unig fyddai'n gwneud gwrogaeth i frenin Lloegr.

Rhyd Chwima 677427.jpg
Rhyd Chwima, lle arwyddwyd y cytundeb
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol cytundeb heddwch Edit this on Wikidata
Dyddiad 29 Medi 1267 Edit this on Wikidata
Rhan o Ymosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
Lleoliad Trefaldwyn Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase /M/03w8d1 edit this on wikidata

Yn wreiddiol, ni chydnabuwyd un tywysog, sef Maredydd ap Rhys o'r Dryslwyn, ond enillodd wrogaeth hwnnw ychydig yn ddiweddarach yn 1270.

Roedd y cytundeb hefyd yn datgan y byddai olynwyr Llywelyn yn cael eu cydnabod yn dywysogion Cymru ar ei ôl. Roedd y cytundeb hwn, felly'n cydnabod tywysogaeth Cymru yn endid annibynnol a chyfansoddiadol, yr hyn a elwir heddiw'n 'wladwriaeth sofran'. Datganwyd hefyd y byddai disgwyl i Lywelyn a'i frawd Dafydd ap Gruffudd gymodi.

Ond costiodd y cytundeb hwn yn ddrud i Lywelyn: 25,000 marc (£16,667) mewn deg taliad blynyddol.

Mae'r cytundeb yn arwyddocaol iawn gan mai dyma'r tro cyntaf i berthynas Coron Lloegr a thywysogaeth Cymru fod yn sefydlog, o ran y ddwy ochr. Llwyddodd Llywelyn i gael y cytundeb hwn lle methodd ei ragflaenydd, Llywelyn ap Iorwerth. Ond roedd gwendid i'r cytundeb hefyd, sef amwysedd yr amodau tiriogaethol oedd ynddo. Rhoddodd dir i Dafydd ac ildidiodd tiroedd roedd wedi eu goresgyn yn siroedd Amwythig a Chaer.[2]

Gweler hefydGolygu

CyfeiradauGolygu

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 153-6.
  2. Hanes Cymru; gol: John Davies; tud. 142. Penguin Books 1990.

LlyfryddiaethGolygu

  • Gwyddoniadur Cymru, tud. 246