Pate

(Ailgyfeiriad o Pâté)

Past a wneir o gig neu bysgod wedi ei falu'n fân, yn aml gyda chynhwysion eraill, yw pate[1] (Ffrangeg: pâté) sydd yn tarddu o goginiaeth Ffrainc. Gwahaniaethir rhwng pâté en terrine, sef gymysgedd wedi ei amlapio mewn braster, megis siwed, a'i goginio mewn llestr hir a dwfn er mwyn ei weini'n oer ar ffurf torth y gellir ei sleisio; a pâté en croûte, a ddodir mewn crwst er mwyn ei weini naill ai yn oer neu'n boeth, yn debyg i bei neu bastai. Yng Ngwledydd Prydain, mae pate fel arfer yn cyfeirio at pâté en terrine.[2]

Pate
Plât o wahanol bates, gyda garnais.
Mathpast taenadwy, saig Edit this on Wikidata
DeunyddBriwgig, liver as food Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBriwgig, liver as food Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gellir cymysgu'r past o gig mâl—cig moch, dofednod, cwningen, cig eidion, neu bysgod—â llysiau, perlysiau, sbeisys, a gwin neu frandi. Gweinir yn aml fel cwrs cyntaf, gyda bara.

Yn Ffrainc, ceir sawl math rhanbarthol ac achlysurol o bate, er enghraifft Pâté de Pâques a fwyteir adeg y Pasg, a pâté de foie gras a wneir o afu gŵydd neu hwyaden.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1.  pate. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.
  2. (Saesneg) Pâté. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.