Pêr-Vari Kerloc'h

Mae Pêr-Vari Kerloc'h (ganed 1952) yn Archdderwydd y Goursez Vreizh sef Gorsedd Llydaw (sefydlwyd 1899). Fe'i ganwyd ym 1952 yn Douarnenez, gorllewin Llydaw. Mae'n dal y swydd am oes (fe'i blaenorwyd gan Gwenc'hlan Le Scouëzec), tra etholir arweinwyr gorseddau Cymru a Chernyw am dair blynedd. Roedd Pêr-Vari Kerloc'h yn gweithio i La Poste cyn ymddeol. Mae'n siarad y Llydaweg fel mamiaith ac mae hefyd yn rhugl ei Gernyweg. Morgan yw ei enw barddol.

Pêr-Vari Kerloc'h
Ganwyd1952 Edit this on Wikidata
Douarnenez Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Croesawyd Pêr-Vari Kerloc'h i'r Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2008. Nid oes gan Goursez Breizh gysylltiad yn uniongyrchol â mudiadau yn Llydaw fel yr Eisteddfod. Ac mae hanes cythryblus Goursez Breizh yn adlewyrchu hanes a gwleidyddiaeth Llydaw. I'r rhan fwyaf o Gymry eu hunig ymwybyddiaeth o Per Vari Kerloc'h yw ei ymddangosiad ar lwyfan y brifwyl yn ystod y prif seremoniau, sef y Cadeirio a'r Coroni. Mererid Hopwood sy'n gyfrifol am y gwesteion Celtaidd yn ystod yr Eisteddfod.

Llyfryddiaeth golygu

  • Hanes Gorsedd y Beirdd (pennawd ar Orsedd Llydaw). Barddas, 1991.

Dolenni allanol golygu