P. J. O'Rourke
Dychanwr, newyddiadurwr, ac awdur gwleidyddol o'r Unol Daleithiau oedd Patrick Jake O'Rourke (14 Tachwedd 1947 – 15 Chwefror 2022).
P. J. O'Rourke | |
---|---|
P. J. O'Rourke yn 2007. | |
Ganwyd | 14 Tachwedd 1947 Toledo |
Bu farw | 15 Chwefror 2022 Sharon |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, dychanwr |
Gwefan | http://www.pjorourke.com |
Yn ystod ei yrfa, bu'n brif olygydd y National Lampoon, prif gylchgrawn hiwmor yr Unol Daleithiau yn y 1970au, ac yn gyfrannwr rheolaidd i Rolling Stone. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer llu o gyhoeddiadau eraill, gan gynnwys The Atlantic Monthly, The American Spectator, a The Weekly Standard. Cyhoeddwyd rhyw ugain o gyfrolau o'i ysgrifau, erthyglau, a chroniclau ar grwydr.
Yn ei ieuenctid bu'n rhan o wrthddiwylliant y 1960au, ac yn fuan trodd at wleidyddiaeth yr adain dde. Pwysleisiai unigolyddiaeth yn ei ysgrifau, a byddai'n cael ei ystyried yn un o ladmeryddion y tueddiad rhyddewyllysiol yn y Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o'r Cato Institute, melin drafod ryddewyllysiol.
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Patrick Jake O'Rourke ar 14 Tachwedd 1947 yn Toledo, Ohio, i deulu o dras Wyddelig a fu'n bleidiol i'r Gweriniaethwyr.[1] Gwerthwr ceir oedd ei dad, Clifford Bronson O'Rourke, a gweinyddwraig mewn ysgol oedd ei fam, Delphine Loy. Derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau, â Saesneg yn brif bwnc, o Brifysgol Miami yn Oxford, Ohio, ym 1969 a gradd meistr mewn Saesneg o Brifysgol Johns Hopkins yn Baltimore, Maryland, ym 1970.[2]
Bu blynyddoedd O'Rourke yn y brifysgol yn cyd-daro ag anterth gwrthddiwylliant y 1960au, protestiadau yn erbyn Rhyfel Fietnam, a mudiad y hipis. Fel myfyriwr fe gafodd ei swyno gan radicaliaeth y cyfnod, a bu'n hoff iawn o ysmygu mariwana. Tra'n astudio yn Johns Hopkins, ymunodd â chylchgrawn cyfrin yn Baltimore o'r enw Harry a oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth roc a rôl a gwleidyddiaeth Farcsaidd. Amheuai ei gydfyfyrwyr ef o beidio â llwyr ymroddi i'r adain chwith, ac wedi iddo raddio fe drodd tuag at safbwyntiau ceidwadol, er iddo gadw ei synnwyr digrifwch amharchus a digywilydd. Yn y cyfnod hwn cyfrannodd at "wrth-gyhoeddiadau" eraill, yn eu plith y llyfr comics The Rip Off Review of Western Culture (1972) a'r papur newydd cyfrin New York Ace (1971–72).
Newyddiaduraeth
golyguWedi iddo adael y brifysgol, ymsefydlodd O'Rourke yn Efrog Newydd ym 1971 gyda'r nod o ennill ei damaid trwy ysgrifennu barddoniaeth a nofelau arbrofol.[3] Cyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi: y llyfryn pedwarplyg Nancy Adler Poems ym 1970 ac Our Friend the Vowel ym 1975. Gweithiodd i bapur newydd cyfrin arall, The East Village Other (EVO), cyn iddo ymuno â'r National Lampoon, a sefydlwyd ym 1970 ar sail The Harvard Lampoon, cylchgrawn hiwmor myfyrwyr Prifysgol Harvard. Gweithiodd yn olygydd gweithredol a rheolwr golygyddol y Lampoon o 1973 i 1977, a fe'i penodwyd yn brif olygydd o 1978 i 1981.[2][4]
Aeth O'Rourke yn newyddiadurwr ar liwt ei hun ym 1981. Cyfrannai yn rheolaidd at Rolling Stone, un o brif gylchgronau diwylliannol a gwleidyddol yr Unol Daleithiau, yn bennaf fel gohebydd tramor. Ysgrifennodd adroddiadau o sawl rhyfel, gan gynnwys chwyldro'r Sandinistas yn Nicaragwa, Rhyfel Cartref Libanus, ac Intifada Cyntaf Palesteina.
Teledu, ffilm a radio
golyguCyd-weithiodd O'Rourke gyda Dennis Blair, Rodney Dangerfield, a Michael Endler ar sgript y ffilm gomedi Easy Money (1983).[2]
Yn y 1990au ymddangosodd mewn cyfres o hysbysebion yn y Deyrnas Unedig ar gyfer British Airways.[1]
Bywyd personol
golyguPriododd P. J. O'Rourke ag Amy Lumet, merch y cyfarwyddwr ffilm Sidney Lumet, ym 1990; cawsant ysgariad ym 1993. Priododd â Tina Mallon ym 1995, a chawsant ddwy ferch ac un mab.[1]
Cafodd ddiagnosis o ganser y rectwm yn 2008. Derbyniodd driniaeth drwy radiotherapi a chemotherapi. Bu farw P. J. O'Rourke ar 15 Chwefror 2022 yn ei gartref yn Sharon, New Hampshire, yn 74 oed, o ganser yr ysgyfaint.
Llyfryddiaeth
golygu- Nancy Adler Poems (Llundain: Writers Forum, 1970).
- Our Friend the Vowel (Efrog Newydd: Stone House, 1975).
- Modern Manners: An Etiquette Book for Rude People (Efrog Newydd: Dell, 1983).
- Republican Party Reptile: Essays and Outrages (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1987).
- The Bachelor's Home Companion: A Practical Guide to Keeping House like a Pig (Efrog Newydd: Pocket Books, 1987).
- Holidays in Hell (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1988).
- Parliament of Whores: A Lone Humorist Attempts to Explain the Entire U.S. Government (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1991).
- Give War a Chance: Eyewitness Accounts of Mankind's Struggle against Tyranny, Injustice, and Alcohol-free Beer (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1992).
- Everybody Had His Own Gringo: The CIA and the Contras (Washington, D.C.: Brassey's, 1992).
- All the Trouble in the World: The Lighter Side of Overpopulation, Famine, Ecological Disaster, Ethnic Hatred, Plague, and Poverty (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1994).
- Age and Guile Beat Youth, Innocence, and a Bad Haircut: Twenty-five Years of P. J. O'Rourke (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1995).
- The American Spectator Enemies List: A Vigilant Journalist's Plea for a Renewed Red Scare (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1996).
- Eat the Rich: A Treatise on Economics (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 1998).
- The CEO of the Sofa (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2001).
- Peace Kills: America's Fun New Imperialism (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2004).
- On the Wealth of Nations: Books That Changed the World (Llundain: Allen & Unwin, 2007)
- Driving Like Crazy (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2009).
- Don't Vote! It Just Encourages the Bastards (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2010).
- Holidays in Heck (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2011).
- The Baby Boom: How It Got That Way And It Wasn't My Fault And I'll Never Do It Again (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2014).
- Thrown Under the Omnibus: A Reader (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2015).
- How the Hell Did This Happen? The Election of 2016 (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2017).
- None of My Business: P. J. Explains Money, Banking, Debt, Equity, Assets, Liabilities, and Why He's Not Rich and Neither Are You (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2018).
- A Cry from the Far Middle: Dispatches from a Divided Land (Efrog Newydd: Atlantic Monthly Press, 2020).
- Golygydd a chyfrannwr
- The 1964 High School Yearbook Parody (Boston: National Lampoon, 1974). Cyd-olygydd gyda Doug Kenney.
- Sunday Newspaper Parody (Boston: National Lampoon, 1978). Cyd-olygydd gyda John Hughes.
- Very Seventies: A Cultural History of the 1970s, from the Pages of Crawdaddy (Efrog Newydd: Simon & Schuster, 1995). Cyd-olygydd gyda Peter Knobler a Greg Mitchell.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "PJ O’Rourke, maverick conservative satirist who rode the wave of Gonzo journalism to skewer the Left and hold the Right to account – obituary", The Daily Telegraph (16 Chwefror 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Chwefror 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "O'Rourke, P. J. 1947–", Contemporary Authors. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.
- ↑ (Saesneg) Eric Longley, "O'Rourke, P. J. (1947—)" yn St. James Encyclopedia of Popular Culture. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.
- ↑ (Saesneg) "O'Rourke, P. J.", Writers Directory 2005. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 19 Chwefror 2022.