Pabaeth Avignon
Enw ar gyfnod yn hanes yr Eglwys Gatholig yw Pabaeth Avignon pan fu'r pabau yn breswyl yn Avignon yn ne-ddwyrain Ffrainc o 1309 i 1377. Teyrnasoedd saith pab o Avignon: Clement V (1305–14), Ioan XXII (1316–34), Bened XII (1334–42), Clement VI (1342–52), Innocentius VI (1352–62), Urbanus V (1362–70), a Grigor XI (1370–78).
Gwladwriaeth yr Eglwys Stato della Chiesa Status Ecclesiasticus | ||||||
Clofan Taleithiau'r Babaeth a rhan o'r Comtat Venaissin yn Nheyrnas Ffrainc | ||||||
| ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
| ||||||
Map o Daleithiau'r Babaeth a chlofan Avignon yn Ffrainc.
| ||||||
Prifddinas | Avignon | |||||
Ieithoedd | Lladin, Profensaleg, Ocsitaneg, Ffrangeg | |||||
Crefydd | Yr Eglwys Gatholig | |||||
Llywodraeth | Brenhiniaeth etholedig absoliwt a theocrataidd | |||||
Pabau | ||||||
- | 1305–1314 | Clement V (cyntaf) | ||||
- | 1370–1378 | Grigor XI (olaf) | ||||
- | 1430(?)–1437 | Bened XIV (gwrth-bab olaf) | ||||
Cyfnod hanesyddol | Yr Oesoedd Canol Diweddar | |||||
- | Symudwyd Llys y Pab i Avignon | 1309 | ||||
- | Return to Rome, the last Avignon pope | 13 Medi 1378 | ||||
- | Gwrth-bab olaf Avignon | 1437 | ||||
Arian cyfred | Sgwdo | |||||
Heddiw'n rhan o |
Yn sgil marwolaeth y Pab Bened XI yn 1304, cynhaliwyd conclaf yn Perugia am flwyddyn gyfan bron i ddewis ei olynydd. Rhennid cydbwysedd grym y cardinaliaid rhwng y Ffrancod a'r Eidalwyr. O'r diwedd, etholwyd y Ffrancwr Raymond Bertrand de Got, cyn-archesgob Bordeaux nad oedd ei hun yn gardinal, yn Bab Clement V. O ganlyniad i'r ymraniadau a'r ymgecru yn Rhufain, llwyddodd Philippe IV, brenin Ffrainc i ddwyn perswâd ar Clement V i symud prifddinas y Babaeth i Avignon. Ar y pryd, rhan o Deyrnas Arles, neu Deyrnas y Ddwy Fwrgwyn, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Avignon.
Dan olynydd Clement, y Pab Ioan XXII, sefydlwyd llys pabaidd newydd yn Avignon i weinyddu materion eglwysig ac i gynnal cynghorau diwinyddol a gwleidyddol. Yn y cyfnod hwn hefyd cyflwynwyd diwygiadau i'r glerigiaeth, hyrwyddwyd addysg y prifysgolion, ac anfonwyd cenadaethau i wledydd pell, gan gynnwys Tsieina. Yn 1348 daeth Avignon dan berchenogaeth uniongyrchol y Babaeth.
Yn 1327 arweiniodd Ludwig, Dug Bafaria (yn ddiweddarach Louis IV, Ymerawdwr Glân Rhufeinig) ymgyrch i Rufain i orseddu Marsilius o Padua, yr hwn a gondemniwyd yn heretic gan Babaeth Avignon. Gwrthwynebwyd ail-leoliad y Babaeth gan sawl brenhinllin yn Ewrop, yn enwedig Teyrnas Lloegr, a oedd yn ei gweld yn daeogaidd i ddiddordebau Ffrainc. Er oedd bob un o'r saith pab a etholwyd, a 111 o'r 134 o gardinaliaid a benodwyd, yn Avignon yn Ffrancod, mae haneswyr diweddar wedi dangos nad oedd Pabaeth Avignon bob tro yn ildio i gymhellion y Ffrancod. Cafodd ei beirniadu hefyd gan y Santes Gatrin o Siena ac eraill am lygredigaeth a dirywiad moesol.
Dychwelodd y Babaeth i Rufain yn 1377 dan Grigor XI, ac etholwyd ail bab gan y cardinaliaid yn Avignon, gan sbarduno'r Sgism Fawr (1378–1417) yn yr Eglwys Gatholig. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall.