Neuadd aml-ddefnydd yng Nghorwen, Sir Ddinbych oedd Pafiliwn Corwen. Dechreuodd y pafiliwn ei bywyd fel neuadd arddangos yn Lerpwl cyn ei hailadeiladu yng Nghorwen.[1]

Pafiliwn Corwen

Neuadd Arddangos yn Lerpwl oedd y Pafiliwn i gychwyn ac fe'i prynwyd gan Ymddiriedolwyr Eisteddfod Gŵyl y Banc, Corwen. Fe'i hailadeiladwyd yng Nghorwen gan gwmni'r Brodyr Miles, Rhosllannerchrugog ac fe gostiodd y cyfan £1,620.[1] Agorwyd y Pafiliwn yn 1913 pan gynhaliwyd Basar enfawr i godi arian tuag at glirio'r ddyled. Cafodd yr adeilad ei ymestyn ym 1919 pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i’r dref. Caewyd y Pafiliwn am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac fe'i defnyddiwyd gan y Weinyddiaeth Fwyd hyd 1945. Yn y 70au cynnar, bu bron i'r Pafiliwn gael ei droi'n ffatri ond fe'i harbedwyd. Moderneiddiwyd yr adeilad gan Gyngor Dosbarth Glyndŵr ac fe osodwyd gwres canolog y tu mewn iddo. Bu rhagor o wario eto gan Gyngor Dosbarth Glyn Dŵr cyn iddynt ei drosglwyddo i ofal Cyngor Sir Ddinbych. Dechreuwyd ar y gwaith o ddymchwel yr adeilad ym mis Ionawr 2014.[2].

Dyfodol ansicr

golygu

Sefydlwyd Pwyllgor Pafiliwn Pobl Edeirnion Cyf. er mwyn ymgyrchu dros gadw a gwella cyflwr y Pafiliwn. Yn 2010 fe gaewyd y pafiliwn oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch, gan arwain at rai’n beirniadu’r perchnogion ar y pryd, Cyngor Sir Ddinbych, o beidio gofalu amdano. Bwriad y cyngor oedd dymchwel yr adeilad, ond llwyddoddd ymgyrchwyr i atal hyn, dros dro o leiaf, yn 2011.[3]

Digwyddiadau'r gorffennol

golygu

Yn ogystal ag Eisteddfod Genedlaethol 1919, mae’r pafiliwn wedi cynnal sawl digwyddiad o bwys:

  • Ym 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol cyntaf Urdd Gobaith Cymru yn y Pafiliwn. Daeth Eisteddfod yr Urdd yn ôl i'r pafiliwn ym 1946, y gyntaf ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
  • Cynhaliwyd tair Gŵyl Gerdd Dant Cymru yma, ym 1978 ac yn yr 80au a'r 90au.
  • Yn y 70au a'r 80au daeth y Pafiliwn yn enwog fel man perfformio i grwpiau Cymraeg. Un o'r mwyaf adnabyddus oedd Edward H. Dafis. Roedd nosweithiau Sgrech yn cael eu cynnal yno hefyd.[4] Perfformiodd y Super Furry Animals yno yn 1999.[5]
  • Cafodd cyfarfodydd gwleidyddol eu cynnal yn y Pafiliwn dros y blynyddoedd gyda David Lloyd George ac Aneurin Bevan ymysg y rhai a fu'n areithio yno.
  • Cynhaliwyd gornestau paffio ac ymdaflyd codwm yno.
  • Bu i sawl gornest cneifio rhyngwladol gymryd lle yn y pafiliwn.
  • Oherwydd ei faint, gwnaeth y cwmnïau teledu ddefnydd helaeth o'r pafiliwn gan ffilmio cystadleuaeth Cân i Gymru a sawl rhaglen arall yno.

Dolen allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Dyfodol Pafiliwn Corwen? Adran Y Bedol, Gwefan BBC Cymru, Tachwedd 2003
  2. Dechrau dymchwel Pafiliwn Corwen Gwefan BBC Cymru; dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2015; adalwyd 12 Ionawr 2015.
  3. Hwb i’r ymgyrch i gadw Pafiliwn Corwen, Golwg360, 8 Mehefin 2011
  4. Cyngor am ddymchwel Pafiliwn ‘Sgrech’ Corwen, Golwg360, 22 Hydref 2010
  5. Gwefan answyddogol Super Furry Animals[dolen farw] (Saesneg)