Pafiliwn Patti

adeilad rhestredig Gradd II yn Uplands

Mae Pafiliwn Patti yn ganolfan yn Abertawe ar gyfer y celfyddydau creadigol. Fe'i lleolir ym Mharc Fictoria i'r de-orllewin o ganol dinas Abertawe. Yn y theatr, perfformir amrywiaeth o ddramâu, pantomeimiau, sioeau cerdd a ffeiriau.

Pafiliwn Patti
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAdelina Patti Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCastell Craig-y-nos, Uplands Edit this on Wikidata
SirAbertawe, Uplands Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6125°N 3.9636°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Enwyd y ganolfan ar ôl Adelina Patti. Yn wreiddiol, lleolwyd yr adeilad yn ei gardd aeafol ar ei stad Craig-y-nos. Rhoddodd Patti yr adeilad i ddinas Abertawe ym 1918. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Cafodd y pafiliwn wedd-newidiad gwerth £3m pan ddaeth yn amlwg nad oedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i'w "lawn botensial". Ariannwyd y prosiect gan Cyngor & Dinas Abertawe ac Achosion Da y Loteri Genedlaethol. (Gweler yr erthyglau newyddion isod). Dechreuwyd ar y gwaith i ymestyn Pafiliwn Patti yn 2007 drwy ychwanegu adain newydd wedi'i orchuddio gan wydr lle byddai caffi/bwyty'n cael eu lleoli.[1] Bellach lleolir bwyty Indiaidd ar y safle.

Dolenni allanol

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cynlluniau i adfywio Pafiliwn Patti Archifwyd 2010-12-22 yn y Peiriant Wayback Cyngor & Dinas Abertawe. Adalwyd ar 10-05-2009